Y Diweddaraf ar Ardal Caffi a Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025
Cafe Proposed 3D Views

Bydd aelodau'r Cabinet yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynlluniau ar gyfer Hwb Diwylliannol a Chaffi Pont-y-pŵl yr wythnos nesaf.

Mae swyddogion y cyngor yn gweithio i ddatblygu caffi newydd wrth ochr y parc ar Hanbury Road, yng nghanol y dref, a gwneud gwelliannau i'r maes parcio aml-lawr, ar Glantorvaen Road.

Mae trydydd cam i drawsnewid Eglwys Sant Iago, gyferbyn â'r caffi ar ochr y parc, yn fwyty a sinema dros dro hefyd yn cael ei symud ymlaen gan ddatblygwr preifat.

Mae'r prosiectau'n rhan allweddol o weledigaeth y cyngor i roi hwb i adfywio canol tref Pont-y-pŵl a byddant yn darparu porth deheuol o ansawdd uchel a fydd yn gwneud canol y dref yn fwy deniadol i ymwelwyr o'r ardal leol a thu hwnt.

Disgwylir i'r prosiectau greu 36 o swyddi newydd, diogelu swyddi presennol, cynyddu nifer yr ymwelwyr a gyrru buddsoddiad yng nghanol y dref yn y dyfodol.

Ddydd Mawrth, gofynnir i gynghorwyr gymeradwyo cynllun i ddefnyddio grant Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU gwerth £1.5m i wireddu potensial y prosiect yn llawn a bodloni amcanestyniadau cyfredol y gyllideb.

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r rhain yn gamau mawr ymlaen yn ein cynlluniau i adfywio'r ardal hon yng nghanol tref Pont-y-pŵl. Bydd yn helpu busnesau a thrigolion i wneud y mwyaf o'r manteision economaidd o fod ar gyrion Parc Pont-y-pŵl, sy'n gyrchfan allweddol i ymwelwyr sy'n denu cannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn. 

"Amlinellwyd y cynlluniau gyntaf yng Nghynllun Creu Lleoedd Pont-y-pŵl, a gymeradwywyd yn 2022, felly rwy'n falch iawn o fod wedi cyrraedd y pwynt hwn.

"Os caiff y cyllid ychwanegol grant Balchder Bro ei gymeradwyo, byddwn yn parhau i wrando a gweithio gyda'n cymunedau i ddod â Chynllun Creu Lleoedd Pont-y-pŵl yn fyw."

Dywedodd Dyl Delany, cadeirydd Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, a sefydlwyd eleni i helpu i lunio dyfodol canol tref Pont-y-pŵl: "Mae Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl yn cefnogi’n llwyr prosiect arfaethedig Ffyniant Bro Torfaen. Rhaglen wedi'i hymchwilio'n llawn sy'n anelu at greu swyddi a rhoi hwb i economi'r dref yw'r union beth sydd ei angen ar ein tref.

"Bydd y prosiect yn helpu tuag at adfywio canol tref Pont-y-pŵl. Y ffocws i ddechrau ar greu Ardal Ddiwylliannol a Chaffi yw'r cam mawr cyntaf yn yr ymdrechion i ddenu ein cymunedau ac ymwelwyr yn ôl i'n tref, ac mae'r Tasglu’n cefnogi hyn."

Derbyniodd Hwb Diwylliannol a Chaffi Pont-y-pŵl £7.6m o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn 2023.

Mae'r cyngor wedi ymrwymo £1.9m mewn cyllid cyfatebol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau.

Darllenwch yr adroddiad: https://moderngov.torfaen.gov.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=134&LLL=1

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025 Nôl i’r Brig