Panel y Bobl yn trafod Bargen Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025
Peoples panel

Fe fu aelodau o Banel y Bobl Torfaen yn cwrdd yr wythnos hon i drafod cynlluniau i ail-lunio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu.

Fe fu tri ar ddeg o drigolion lleol yn gwrando ar gyflwyniad gan David Leech, Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor a’r Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Oedolion a Chymunedau, yn Llyfrgell Cwmbrân, ac yn manteisio ar y cyfle i holi cwestiynau.

Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys pŵer gweithredu lleol, diogelwch cymunedol, a phwysigrwydd datblygu Bargen Torfaen ochr yn ochr â sefydliadau sy’n cynnwys y bwrdd iechyd a'r heddlu.

Meddai David: "Roedd egni a chymhelliant Panel y Bobl yn wirioneddol ysbrydoledig. Cawsom drafodaeth wych am sut y dylem ddod at ein gilydd fel cymuned i feddwl yn wahanol am sut y mae gwasanaethau lleol yn cael eu dylunio a'u darparu a sut y gallwn wneud hynny.

"Mae'r dull newydd hwn yn rhoi cyfle gwych i ni i ddarparu mwy ar gyfer pobl leol tra'n cwrdd â'r galw cynyddol am wasanaethau."

Cynhaliwyd digwyddiad Panel y Bobl yn rhan o raglen o ymgysylltu â'r gymuned ynghylch y cynllun ar gyfer Bargen Torfaen.

Gallwch gymryd rhan yn y sgwrs trwy fynd i Cymryd Rhan Torfaen cyn 31 Rhagfyr.

Bydd eich sylwadau a'ch barn yn cael eu defnyddio gan y Cynulliad Dinasyddion i lunio manylion Bargen Torfaen, a fydd yn cael ei rhoi allan er mwyn ymgynghori ymhellach arni ym mis Chwefror.

Bydd digwyddiad Panel y Bobl ar-lein yn cael ei gynnal ddydd Llun 8 Rhagfyr. I ymuno â Phanel y Bobl, cysylltwch â getinvolved@torfaen.gov.uk

Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Mae'r galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol wedi cynyddu’n aruthrol a dydy’r cynghorau ddim wedi cael y cyllid i barhau i wneud pethau yn yr un ffordd. Er mwyn llenwi'r bwlch, mae cynghorau yn aml wedi torri gwasanaethau dewisol ehangach – yn aml yr union bethau sy'n atal iechyd gwael ac yn lleihau'r galw hirdymor.

"Pan fydd y gwasanaethau hynny'n dirywio, mae anghydraddoldebau iechyd yn dyfnhau ac mae'r galw am wasanaethau acíwt yn codi yn ganlyniad. Yn Nhorfaen, rydyn ni eisiau bod yn fwy arloesol na hynny, oherwydd rydyn ni'n credu y gall pethau fod yn well i'n cymunedau. Felly heddiw, rydym yn falch o lansio Bargen Torfaen – cam beiddgar tuag at ddyfodol lle gall pawb yn ein Bwrdeistref ffynnu.

"Mae hyn yn fwy na chynllun; Mae'n ffordd newydd o weithio, o feithrin ymddiriedaeth a chyfrifoldeb a rennir rhwng y Cyngor, trigolion a'n partneriaid. Trwy fuddsoddi mewn atal a grymuso ein cymunedau, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial llawn Torfaen gyda'n gilydd."

Am fanylion digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, ewch i Cymryd Rhan Torfaen neu dilynwch Cyngor Torfaen ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025 Nôl i’r Brig