Trigolion yn llorio'r her ailgylchu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
KUWTJ eng

Mae’r gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu wedi codi 16 y cant ar draws Torfaen ers i ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor ddechrau.

Ers mis Medi, mae swyddogion addysg a gorfodi ailgylchu wedi bod yn dosbarthu llyfrynnau Cystadlu â’ch Cymdogion ac yn cynghori trigolion am sut i leihau’r gwastraff y eu biniau â chlawr porffor.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Diolch yn fawr iawn i drigolion am ailgylchu eu gwastraff bwyd trwy ein casgliad wythnosol wrth ymyl y palmant, ac yn enwedig i unrhyw drigolion a allai fod wedi bod yn amheus o'r blaen.

"Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n parhau i ailgylchu nawr eu bod nhw wedi rhoi tro arni. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld ei bod yn llawer gwell peidio â chael bwyd yn sefyllian am bythefnos, a'i selio yn y cadis.

"Mae gwastraff bwyd wedi bod yn gyfran fawr o’r gwastraff yn y bin â chlawr porffor erioed, felly rydyn ni wrth ein boddau i weld mwy ohono’n cael ei roi allan i'w ailgylchu.

"Mae hefyd yn wych ein bod ni'n gallu cynhyrchu ynni a gwrtaith o fwyd sydd dros ben. Er, mae gwastraffu cyn lleied o fwyd â phosibl hyd yn oed yn well!."

Dyma ambell air o gyngor gan ein tîm i helpu trigolion i ailgylchu'n fwy effeithiol:

  • Dechreuwch yn fach. Ceisiwch ailgylchu eich bagiau te a'ch plisgyn wy am wythnos, i weld sut mae'n mynd. Cyn hir, byddwch chi'n methu â chredu sut wnaethoch chi oroesi heb gasgliad gwastraff bwyd wythnosol.
  • Eisiau help? Mae ein Swyddogion Addysg a Gorfodi Ailgylchu yma i'ch cefnogi. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd, byddan nhw’n gallu eich helpu i leihau faint sy'n mynd i mewn i'ch bin â chlawr porffor.

Bydd y tîm yn monitro biniau â chloriau porffor ac yn estyn allan at aelwydydd sydd â biniau gorlawn neu fagiau sbwriel ychwanegol, i gynnig cyngor a chymorth.

Ond, os na fydd unrhyw newid, gallen nhw gael llythyr o rybudd ac, yn y pen draw, Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Bydd y tîm hefyd yn monitro gwastraff biniau â chlawr porffor, a bydd yn cysylltu ag unrhyw aelwydydd y mae eu biniau yn orlawn neu sydd â bagiau sbwriel ychwanegol wrth eu hymyl.

Y nod yw codi’r gyfradd ailgylchu yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau carbon sero net.

Mewn arolwg Codi'r Gyfradd yn 2023, dywedodd 56 y cant o drigolion y byddent yn cefnogi camau gorfodi yn erbyn y rheiny sydd ddim yn ailgylchu.

Gallwch ddarllen mwy am Bolisi Addysg a Gorfodi Gwastraff y Cyngor  ar ein gwefan.

Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar garreg eich drws  

Angen bocsys neu fagiau ailgylchu ychwanegol? Chwiliwch am eich hwb ailgylchu agosaf 

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor saith niwrnod yr wythnos. Gofynnwn yn garedig i chi wahanu’ch ailgylchu a’ch sbwriel. 

Diwygiwyd Diwethaf: 20/11/2025 Nôl i’r Brig