Ysgol leol yw'r cyntaf i gael ei chydnabod gan elusen ryngwladol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025
Peacebuilder award

Mae clwb ysgol sy'n hyrwyddo heddwch yn lleol ac yn fyd-eang wedi cael ei gydnabod gan yr elusen ryngwladol Rotary Action Group for Peace.

Mae 15 o ddisgyblion yn rhan o Glwb Interact Croesyceiliog, a sefydlwyd yn 2022, ac sy’n rhan o adran ieuenctid y Clwb Rotari.

Ym mis Hydref, cawsant eu henwi'n glwb ‘Peacebuilder Interact Club’ cyntaf y byd, i gydnabod y gwaith cymunedol maen nhw wedi'i wneud i hyrwyddo heddwch a chymuned.

Mae'r uchafbwyntiau’n cynnwys gweithgareddau i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer ymgyrch End Polio Now y Clwb Rotari, a chodi arian i dalu am adnoddau ar gyfer Ysgol Jackie yn Kyemula, Uganda.

Nawr, mae'r ysgol yn gweithio tuag at ddatblygu Gardd Heddwch yn yr ysgol, diolch i gyllid o £500 gan Grant Cydlyniant Cymunedol Cyngor Torfaen.

Bydd trefniant o flodau ceramig yn cael ei arddangos wrth flaen yr ysgol, fel symbol o fwy na 30 o genhedloedd a gynrychiolir yng nghymuned yr ysgol, ochr yn ochr â'r neges: "May Peace Prevail on Earth/Tangnefedd ar y Ddaear "

Meddai llywydd y Clwb, Arabella, sydd ym Mlwyddyn 9: "Rydw i wedi dysgu nad yw heddwch yn golygu osgoi gwrthdaro yn unig. Mae’n golygu creu dealltwriaeth, gwrando ar eraill, a sefyll dros yr hyn sy'n iawn.

"Cefais gwrdd â Stephanie Urchick hefyd, Llywydd Rotary International, ac roedd y profiad mor arbennig. Roedd ei chlywed yn siarad am yr hyn y mae’r elusen yn ei wneud ar draws y byd wedi agor fy llygaid i ba mor gysylltiedig yr ydyn ni i gyd trwy garedigrwydd a gwasanaeth."

Meddai Matilda, disgybl o Flwyddyn 8: "Rwy'n teimlo'n falch o fod yn rhan o rywbeth sy'n gwerthfawrogi caredigrwydd, parch a gweithredu. Mae'n brofiad hynod werth chweil.

"Mae wedi rhoi cyfle i fi i ddod i gyswllt â phobl eraill sy'n poeni am wneud gwahaniaeth, ac mae wedi fy helpu i dyfu fel unigolyn ac fel arweinydd."

Meddai’r Pennaeth, Natalie Richards: "Rwy'n falch iawn o'r effaith anhygoel y mae ein Clwb Interact wedi'i chael. O gefnogi Ysgol Jackie yn Uganda gyda phrosiectau iechyd ac addysg hanfodol, i godi ymwybyddiaeth am End Polio Now, mae ymrwymiad y disgyblion i wasanaethu wedi bod yn ysbrydoledig.

"Maen nhw wedi dod â charedigrwydd, ac yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn yn ein cymuned leol, trwy wneud casgliadau ar gyfer banciau bwyd, codi arian i elusennau, a threfnu digwyddiadau i drigolion sy’n agored i niwed.

"Mae'n fraint gweld arweinyddiaeth, tosturi a natur benderfynol y myfyrwyr ar waith."

Mae Clwb Interact Croesyceiliog yn cael ei gefnogi gan Glwb Rotari Henllys, ac maen nhw’n rhannu diweddariadau am eu prosiectau ar eu tudalen Facebook.

Mae mwy na 15,000 o Glybiau Interact mewn 145 o wledydd ar draws y byd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.rotarygbi.org

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2025 Nôl i’r Brig