Car camera yn cyhoeddi llythyrau rhybuddio

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Tachwedd 2025
IMG-20251112-WA0009

 Mae bron i 100 o lythyrau rhybuddio wedi cael eu hanfon ers i gar gorfodi’r cyngor, sydd â chamera, ddechrau gweithredu yn y fwrdeistref.

Mae'r cerbyd gorfodi, sydd â chamera CCTV, wedi bod yn patrolio am y pythefnos diwethaf i ganfod ceir sy’n parcio'n anghyfreithlon, ac yn dilyn hynny anfonwyd llythyrau rhybudd.

Anfonwyd cyfanswm o 43 llythyr rhybuddio i yrwyr am barcio ar safleoedd bysiau, 15 am stopio ar farciau 'Cadwch yn glir' ger ysgolion, 11 am barcio mewn parthau dim aros, a 4 am barcio ar linellau igam-ogam.

Wrth i'r cyfnod rhybuddio ddod i ben, mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa, o ddydd Llun 17 Tachwedd y bydd unrhyw un sy'n parcio'n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion, ar safleoedd bysiau, neu ar linellau igam-ogam, yn derbyn hysbysiad tâl cosb.

Bydd yr hysbysiad tâl cosb awtomatig sy’n £70 yn gostwng i £35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: ''Er bod nifer fawr o lythyrau rhybuddio wedi'u hanfon, rydym yn gobeithio y bydd gyrwyr yn meddwl ddwywaith am barcio'n anghyfreithlon o ystyried ei effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn enwedig o amgylch mannau fel ysgolion”

Yn ôl adroddiad gan Aelod Gweithredol ym mis Gorffennaf, bydd y car yn targedu parcio peryglus a rhwystrol o amgylch ysgolion, safleoedd bysiau, llinellau igam-ogam, mannau llwytho, cyfyngiadau dim llwytho / dadlwytho a llinellau melyn dwbl gyda marciau ar y palmant.

Bydd dal gan ddeiliaid bathodyn glas hawl i barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr, os nad oes cyfyngiadau llwytho, ac os yw’n ddiogel iddynt wneud hynny. 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/11/2025 Nôl i’r Brig