Carchar i dipiwr anghyfreithlon cyson

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025
Stewart Evans fly-tipping

Mae dyn a barhaodd i gyflawni troseddau tipio anghyfreithlon er ei fod yn destun gorchymyn ymddygiad troseddol wedi cael ei garcharu am 15 mis.

Cafodd Stewart Evans o Gaerllion, Casnewydd orchymyn ymddygiad troseddol am 10-mlynedd a dedfryd o garchar wedi'i gohirio yn gynharach eleni yn dilyn cyfres o droseddau tipio anghyfreithlon yn Nhorfaen, Casnewydd a Sir Fynwy.

Roedd amodau'r gorchymyn yn gwahardd Mr Evans rhag symud unrhyw wastraff o gartref unrhyw unigolyn, gan gynnwys deunyddiau gardd.

Roedd y gorchymyn hefyd yn ei wahardd rhag hysbysebu i gael gwared ar wastraff o gartref unrhyw unigolyn gyda'r bwriad o dderbyn taliad, ar unrhyw fath o gyfrwng.

Fodd bynnag, wrth dorri amodau'r gorchymyn mewn modd amlwg, ac er gwaethaf y ddedfryd wedi’i gohirio, parhaodd Mr Evans i wneud y ddau beth uchod, gan ddympio’r gwastraff roedd wedi'i gasglu yn anghyfreithlon.

Yn dilyn ymchwiliad gan dîm gorfodi gwastraff y Cyngor, cafodd Mr Evans ei arestio unwaith eto a'i gadw yn y ddalfa cyn cynnal treial.

Yn Llys y Goron Casnewydd yn gynharach heddiw, plediodd Evans yn euog i dair trosedd tipio anghyfreithlon a'i ddedfrydu i 15 mis yn y carchar.

Yn flaenorol, roedd Evans wedi pledio'n euog i ddeuddeg cyhuddiad o dipio anghyfreithlon rhwng Ionawr 2023 a Mai 2024.

Arweiniodd Cyngor Dinas Casnewydd ymgyrch i fynd ar ôl troseddau Mr Evans ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy, a oedd yn cynnwys:

  • Dympio sympiau mawr o wastraff y cartref mewn lleoliadau yn New Inn, Abersychan, Mynydd Pwll Du, a Chanolfan Siopa Ringland.
  • Dympio gwastraff y cartref ac oergell-rhewgelloedd yng nghoedwig Coed-Gwent
  • Dympio gwastraff yn Brangwyn Crescent, Casnewydd
  • Dympio gwastraff mewn bin gwastraff masnachol yng Nghaerllion.

Y troseddau hyn a arweiniodd i Evans gael y gorchymyn ymddygiad troseddol a'r ddedfryd wedi’i gohirio yn gynharach eleni.

Cafwyd Evans hefyd yn euog o droseddau tipio anghyfreithlon yn 2022, ac ar ôl hynny collodd ei drwydded cludwyr gwastraff.

Wrth sôn am y ddedfryd, meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rwy'n falch iawn o'r ddedfryd o garchar a roddwyd i Stewart Evans.

Mae hwn yn ganlyniad gwych ac yn anfon neges i bobl sy'n tipio’n anghyfreithlon y byddwn yn ymchwilio ac y bydd canlyniadau.

"Mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau ac nid yw'n dderbyniol. Hoffwn ddiolch i'n staff a'n cydweithwyr yng Nghasnewydd a Sir Fynwy am eu diwydrwydd."

Gallwch roi gwybod am dipio anghyfreithlon trwy wefan y Cyngor neu ap FyNhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2025 Nôl i’r Brig