Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
Bydd digwyddiadau Cofio ar draws Torfaen ddydd Sul, 9 Tachwedd i anrhydeddu'r rheiny sydd wedi gwasanaethau ac wedi aberthu mewn gwrthdaro nawr ac yn y gorffennol.
Mae Sul y Cofio’n achlysur cenedlaethol a gynhelir ar ail ddydd Sul Tachwedd, gyda gwasanaethau’n cael eu cynnal ledled y DU i nodi’r achlysur.
Bydd gorymdeithiau yn Nhorfaen yn y mannau canlynol:
- Blaenafon – 10.40am - Gorymdaith o’r Maes Parcio Uchaf, trwy Broad Street ac Ivor Street i’r Senotaff. 11am – Gosod torchau a gwasanaethau wrth y Senotaff.
- Cwmbrân – 10.20am - Gorymdaith yn ymgynnull ar Clomendy Road/Wesley Street ac yna’n gorymdeithio trwy Cocker Avenue i Barc Cwmbrân ar gyfer Gwasanaeth y Cofio am 10.50am
- Y Dafarn Newydd - 10am Gorymdaith yn ymgynnull yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, The Highway, Y Dafarn Newydd ac yn mynd tuag at Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth.
- Pontnewydd - 10.25am - Gorymdaith wrth ymyl Ladywell yn Commercial Street, Pontnewydd. Gorymdaith yn symud trwy Richmond Road i’r Senotaff ar gyfer gosod torchau am 11am. Ar ôl y gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn symud ar hyd Lowlands Road a Richmond Road, gan droi i’r chwith at Station Road ac aros ychydig cyn y gyffordd â Thŷ Mynydd.
- Pont-y-pŵl – 11.45am - Gorymdaith yn ymgynnull ar Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl ac yn mynd tuag at Gatiau Coffa Parc Pont-y-pŵl ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau am 12pm.
Anogir trigolion i ddod a dangos parch, ond dylen nhw neilltuo mwy o amser ar gyfer teithio oherwydd y cau ffyrdd sydd mewn grym er mwyn hwyluso’r gorymdeithiau. Mae rhestr o’r ffyrdd sydd wedi’u cau ar wefan Cyngor Torfaen.
Bydd nifer o wasanaethau’n digwydd ar Sul y Cofio, felly anogir trigolion i edrych ar wefannau neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol eu heglwysi neu blwyfi am fanylion.
Bydd Diwrnod y Cadoediad yn dilyn ddydd Mawrth, 11eg Tachwedd, i goffau diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gwahoddir y rheiny na all fynd i’r digwyddiadau i gadw’r distawrwydd cenedlaethol am ddwy funud am 11am.
Dywedodd y Cyng. Gaynor James, Hyrwyddwr Cyngor Torfaen ar gyfer y Lluoedd Arfog: “Mae’r Cofio’n adeg ar gyfer myfyrdod, diolchgarwch ac undod. Mae’r gorymdeithiau a’r gwasanaethau yma’n ffordd rymus i’n cymunedau ddod at ei gilydd ac anrhydeddu’r aberth gan gynifer.”