Bargen Torfaen - cytundeb cymdeithasol newydd ar gyfer dyfodol tecach

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
Teams-Background-The-Deal-Torfaen

Mae'r cyngor yn lansio menter feiddgar i ail-lunio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu – ac mae trigolion yn cael eu gwahodd i helpu i'w llunio.

Mae Bargen Torfaen yn gytundeb cymdeithasol newydd rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n cyflwyno gweledigaeth ar y cyd ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu taclo ac mae pob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.

Rydym yn eich annog i fynd i Cymerwch Ran Torfaen a chwblhau arolwg byr am eich cymuned, gan helpu i lunio’r blaenoriaethau a’r camau a fydd yn sail i’r Fargen.

Bydd eich sylwadau a'ch barn wedyn yn cael eu hystyried gan Gynulliad Dinasyddion yn y Flwyddyn Newydd, gyda disgwyl i'r Fargen gael ei roi allan ar gyfer ymgynghoriad pellach ym mis Chwefror.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Torfaen, Stephen Vickers: "Mae'r Fargen yn nodi newid sylweddol i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau o'r brig i lawr mewn cymunedau. Yn syml iawn, mae’r Fargen yn feddylfryd a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Mae'n ymwneud â datblygu perthynas newydd gyda thrigolion a phartneriaid sy'n adeiladu ar y cryfderau a'r gallu mewn cymunedau ac mae’n ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'n gilydd i ddylunio a darparu gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol.

"Trwy weithio gyda'i gilydd gyda ffocws ar atal, grymuso a chydweithio, nod Y Fargen yw torri'r cylch o alw cynyddol a chyllidebau syn lleihau a gosod y sylfeini i wella lles cymunedol hirdymor."

Mae’r Fargen yn seiliedig ar bum cenhadaeth allweddol:

  • Blynyddoedd Cynnar – Adeiladu Dyfodol Gwell: Cefnogi plant a theuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.
  • Dysgu Gydol Oes a Gwytnwch: Creu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu, tyfu ac addasu.
  • Lles Trwy Arweinyddiaeth Gymunedol: Grymuso pobl leol i arwain newid a gwella iechyd a hapusrwydd.
  • Economi Ffyniannus a Lleoedd Bywiog: Creu lleoedd a chyfleoedd lle gall busnesau a chymuned ffynnu gyda’i gilydd.
  • Cymunedau wedi eu Grymuso – Rhannu Grym a Llwyddiant: Gosod grym yn nwylo trigolion i lunio blaenoriaethau lleol a chyd-gynhyrchu atebion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: “Mae'r galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol wedi cynyddu ac nid oes gan gynghorau’r cyllid i barhau i wneud pethau yn yr un ffordd. Er mwyn llenwi'r bwlch, mae cynghorau yn aml wedi torri gwasanaethau dewisol ehangach - yn aml yr union bethau sy'n atal iechyd gwael ac yn lleihau'r galw hirdymor.

"Pan fydd y gwasanaethau hynny'n dirywio, mae anghydraddoldebau iechyd yn dwysau ac mae'r galw am wasanaethau’n codi o ganlyniad. Yn Nhorfaen, rydyn ni eisiau bod yn fwy arloesol na hynny, oherwydd rydyn ni'n credu y gall pethau fod yn well i'n cymunedau. Felly heddiw, rydym yn falch o lansio Bargen Torfaen – cam beiddgar tuag at ddyfodol lle gall pawb yn ein bwrdeistref ffynnu.

"Mae hyn yn fwy na chynllun; mae'n ffordd newydd o weithio, adeiladu ymddiriedaeth a chyfrifoldeb ar y cyd rhwng y cyngor, trigolion a'n partneriaid. Trwy fuddsoddi mewn atal a grymuso ein cymunedau, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial Torfaen gyda'n gilydd.”

Er mwyn cyflawni'r genhadaeth hon, mae'r cyngor yn gwneud newid diwylliannol a gweithredol sylfaenol - gan gyd-dynnu buddsoddiad a gwasanaethau y tu ôl i atal, tegwch a gwytnwch, a chefnogi staff i weithio'n agos gyda'n cymunedau fel arweinwyr a chyfrwng newid.

Sut i gymryd rhan

Gwahoddir trigolion, grwpiau cymunedol a phartneriaid i gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r Fargen. Ewch i Cymerwch Ran Torfaen i gwblhau’r arolwg a dysgu mwy am ddigwyddiadau ymgysylltiad sydd ar ddod.

Gall trigolion hefyd gymryd rhan drwy ymuno â Chynulliad Dinasyddion Torfaen am dair sesiwn yn ystod Ionawr a Chwefror.

Bydd llythyrau'n cael eu hanfon yr wythnos hon gyda dyddiad cau i gofrestru cyn Tachwedd 30. Bydd y cyfranogwyr wedyn yn cael eu dewis trwy broses gynrychioliadol ar hap i sicrhau bod y cynulliad yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymuned.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2025 Nôl i’r Brig