Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Mai 2025
Bob dydd Mawrth am 10am, mae grŵp o fenywod sy’n 60 oed neu’n hŷn yn dod at ei gilydd yng nghampfa Suki Strength Club ym Mhont-y-pŵl - i godi pwysau, ac i godi ysbryd ei gilydd.
Mae'r hyn a ddechreuodd fel dosbarth ffitrwydd wedi dod yn ffynhonnell lesiant a chyfeillgarwch bwerus i tua 15 o fenywod sy'n dod i’r sesiynau’n wythnosol.
Meddai Meryl Young, 71 oed o Gwmbrân, sydd wedi bod yn dod gyda'i ffrind Caroline ers i’r sesiynau ddechrau chwe mis yn ôl: "Doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i'n codi pwysau yn fy oedran i, ond dyma fi!"
"Cyn hyn, roeddwn i'n cael poenau yn fy ysgwydd a ‘mhen-glin, ond ers codi pwysau yn rheolaidd a gwneud ymarferion aerobig eraill, mae wedi helpu i'w lleddfu. Mae fy nghydbwysedd wedi gwella, rwy'n teimlo'n gryfach, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau gwych. Mae wedi rhoi bywyd newydd i fi."
Meddai Christine Vorres, 66, o Dref Gruffydd: "Un o'r pethau roeddwn i'n synnu i’w ddysgu oedd nad oeddwn i’n gallu mynd i lawr ar y llawr a nôl i fyny yn hawdd, ond ers gweithio fy nghraidd, mae fy symudedd wedi gwella, ac rydw i nawr yn gallu gwneud hynny lawer yn fwy heb ddefnyddio fy nwylo.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddydd Mawrth nawr oherwydd mae’n fwy na dim ond ymarfer corff – mae ‘na chwerthin, cefnogaeth, a theimlad o berthyn."
Mae'r dosbarth codi pwysau yn rhan o ymgyrch Ffynnu Cyngor Torfaen, sy’n dathlu blwyddyn o fodolaeth y mis Mai hwn.
Ers ei lansio, mae Ffynnu wedi tyfu i gefnogi 15 grŵp actif ar draws Torfaen, pob un ohonynt yn anelu at wella iechyd a lles preswylwyr sy’n 60 oed neu’n hŷn.
Mae rhai o'r sesiynau hyn yn cynnwys yoga, ymarfer corff ar gadair, dawnsio sbotolau a phêl raced.
Hyd yn hyn, mae mwy na 200 o bobl wedi elwa ar y rhaglen.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Trwy Ffynnu rydyn ni wedi gweld pobl yn magu hyder, yn gwella eu hiechyd, ac yn meithrin cyfeillgarwch sy’n para. Mae'n dangos beth mae llesiant dan arweiniad y gymuned yn gallu ei gyflawni.
"Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i flaenoriaethau llesiant y Cynllun Sirol - cefnogi ffyrdd iachach o fyw, lleihau unigrwydd, a galluogi pobl i fyw'n dda am gyfnod hirach."
Am ragor o wybodaeth am ddosbarthiadau Ffynnu a sut i gymryd rhan, ewch i Cysylltu Torfaen.