Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Mai 2025
Mae dyn wedi cael dirwy am beidio â helpu'r Cyngor gyda'i ymholiadau i ddigwyddiad tipio anghyfreithlon.
Cafodd Sam Brooks, 35, o Gaerffili, ddirwy o £1,100, gorchymyn i dalu costau a dreuliwyd gan y cyngor o £1,189.48 a gordal o £440 gan Lys Ynadon Cwmbrân.
Cafodd ei erlyn o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995 am beidio â chynorthwyo ymchwiliad, yn dilyn achos o dipio anghyfreithlon yn lonydd Henllys, yng Nghwmbrân.
Roedd aelod o'r cyhoedd wedi adrodd ei fod wedi gweld cerbyd yn gollwng llawer o wastraff adeiladu, gan gynnwys inswleiddio a darnau o fyrddau plastr, ym mis Chwefror 2024.
Mewn ymchwiliad, nodwyd bod y cerbyd wedi'i gofrestru yn enw Mr Brooks a chysylltwyd ag ef er mwyn ceisio egluro'r amgylchiadau, ond methodd ag ymateb.
Rhoddwyd hysbysiad cyfreithiol i Mr Brooks o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddod i gyfweliad gyda swyddogion y Cyngor i gynorthwyo gydag ymholiadau, ond methodd â gwneud hynny hefyd.
Yn ganlyniad, erlynwyd Mr Brooks am fethu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad Adran 108 yr oedd wedi'i gael.
Ni ddaeth Mr Brooks i’r gwrandawiad gerbron Llys Ynadon Cwmbrân fis diwethaf ond profwyd y drosedd yn ei absenoldeb.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol o dan Adran 108 er mwyn cynorthwyo ymchwiliad cyfreithiol yn drosedd a byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol ble mae’r rheiny'n briodol i alluogi i'n swyddogion gyflawni eu dyletswyddau."