Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 13 Mai 2025
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Torfaen heddiw, cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i’r cabinet, pwyllgorau’r cyngor a chyrff allanol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Gweithred gyntaf y Cyfarfod oedd penodi Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol newydd i gadeirio cyfarfodydd y cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024/5.
Ail-etholwyd y Cyng. Rose Seabourne yn Aelod Llywyddol y cyngor ac etholwyd y Cyng. David Williams yn Ddirprwy Aelod Llywyddol.
Yn dilyn enwebiadau ar gyfer swydd Arweinydd y Cyngor, derbyniodd y Cyng. Anthony Hunt bleidlais y mwyafrif a chafodd ei ail-ethol yn briodol. Bydd gan yr Arweinydd gyfrifoldeb hefyd am gyllid strategol a gwasanaethau ariannol.
Cafodd y Cyng. Richard Clark ei ailethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio ar gyfer Plant, Teuluoedd ac Addysg.
Rhestr lawn penodiadau i'r cabinet yw:
- Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai – Y Cyng. David Daniels
- Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg – Y Cyng. Richard Clark
- Aelod Gweithredol dros Gymunedau – Y Cyng. Fiona Cross
- Aelod Gweithredol dros Lywodraeth Gorfforaethol ac Adnoddau – Y Cyng. Peter Jones
- Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd – Y Cyng. Mandy Owen
- Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio – Y Cyng. Joanne Gauden
- Aelod Gweithredol, Gwastraff a Chynaliadwyedd – Y Cyng. Sue Morgan
Penodwyd y cadeiryddion canlynol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu:
- Pwyllgor TaCh yr Economi a’r Amgylchedd – Y Cyng. Linda Clarkson
- Pwyllgor TaCh Addysg – Y Cyng. Rose Seabourne
- Pwyllgor TaCh Oedolion a Chymunedau – Y Cyng. Catherine Bonera
- Pwyllgor TaCh Plant a Theuluoedd – Y Cyng. Alan Slade
- Pwyllgor TaCh Trawsbynciol Adnoddau a Busnes – Y Cyng. David Williams
Penodwyd aelodau hefyd i gadeirio’r pwyllgorau statudol canlynol:
- Pwyllgor Cynllunio – Y Cyng. Norma Parrish
- Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cyng. Steve Evans
- Pwyllgor Pensiynau – Y Cyng. Nathan Yeowell
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cyng. Steve Evans
Wrth dderbyn ei benodiad yn Arweinydd Cyngor Torfaen, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt: "Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eich cefnogaeth ond, yn bwysicach fyth, am eich gwaith caled a'ch arweinyddiaeth ar y cyd yn eich wardiau ac yn y cyngor.
"Rwy'n credu’n gryf bod arweinyddiaeth yn ferf, nid yn enw, mae'n gyflwr meddwl ac nid yn swydd, ac felly mae pob un ohonoch chi'n chwarae rhan wrth arwain y cyngor a chymunedau yn yr heriau sy'n ein hwynebu.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r cyhoedd am weithio gyda ni, yn enwedig pawb sy'n gwirfoddoli yn ein cymunedau. Mae'n rhan bwysig o'n strategaeth fel cyngor ein bod ni'n gweithio gyda'n cymunedau, yn hytrach na gwneud pethau i gymunedau, ac felly mae ymroddiad pobl sy'n gweithio’n wirfoddol yn ein cymunedau, diolch am y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud ochr yn ochr â'n staff."
Mae'r 90 sedd ar wahanol bwyllgorau ac is-bwyllgorau yn cael eu dyrannu ar sail cydbwysedd gwleidyddol. Dyrennir 61 sedd i'r grŵp Llafur mwyafrifol, gydag 11 wedi'u dyrannu i’r grŵp Annibynnol, 10 i'r grŵp Reform ac wyth sedd wedi'u dyrannu i grŵp Annibynnol Torfaen.
Mae'r Aelodau Gweithredol canlynol wedi'u penodi'n hyrwyddwyr o blith Aelodau:
Y Cyng. David Daniels – Hyrwyddwr Cyngor Cyfeillgar i Oedran
Y Cyng. Peter Jones - Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Y Cyng. Anthony Hunt - Hyrwyddwr Gwrthdlodi
Y Cyng. Richard Clark - Hyrwyddwr Pobl Ifanc
Penodwyd yr hyrwyddwyr canlynol o blith Aelodau hefyd:
- Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau – Y Cyng. Steve Evans
- Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog – Y Cyng. Gaynor James
- Hyrwyddwr Gofalwyr – Y Cyng. David Daniels
- Hyrwyddwr Cynaliadwyedd – Y Cyng. Stuart Ashley
- Hyrwyddwr Treftadaeth y Byd – Y Cyng. Janet Jones
- Clefyd Niwronau Echddygol (MND) – Y Cyng. Giles Davies
- Hyrwyddwr Dementia– Y Cyng. Mandy Owen
- Hyrwyddwr Cymuned Sipsiwn a Theithwyr – Y Cyng. Gaynor James
- Hyrwyddwr Iechyd Meddwl – Y Cyng. Nick Byrne
- Trais yn erbyn menywod a merched – Y Cyng. Jane Watkins
Gwnaeth y cyngor enwebiadau hefyd i gyrff allanol gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Tai Cymunedol Bron Afon, Ymddiriedolaeth Camlas Aberhonddu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.