Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 6 Mai 2025
Mae gwaith wedi'i gwblhau i adfer wyth cofeb ryfel wrth i ni baratoi i gofio 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yr wythnos hon.
Fe fu cwmni adfer proffesiynol yn archwilio pob cofeb i asesu'r gwaith yr oedd ei angen i'w gwella a'u gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yna gwnaed gwaith i lanhau, ail-gwyro ac ail-osod arysgrifau lle bo’u hangen ar y cofebion canlynol:
- Cofeb Ryfel Blaenafon
- Gatiau Coffa Parc Pont-y-pŵl
- Cofeb Ryfel Mynwent Panteg
- Cofeb Ryfel Pontnewydd
- Cofeb Ryfel Croesyceiliog a Llanyrafon
- Cofeb Ryfel Parc Cwmbrân
- Cofeb Ryfel Henllys – Neuadd y Pentref Henllys
- Cofeb Tŵr y Cloc Hen Gwmbrân
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu ariannu'r gwaith pwysig hwn fel teyrnged i'r rheiny a ymladdodd ac a fu farw.
"Mae'r cofebion hyn yn arwyddocaol iawn i’n cymunedau, fel y dangosir gan y gwirfoddolwyr hynny sy'n helpu i gadw'r ardal o'u cwmpas yn dwt ac yn daclus trwy gydol y flwyddyn.
"Hoffwn wahodd yr holl drigolion i ymuno â ni mewn gwasanaeth arbennig ddydd Iau i gofio am y rheiny a aberthodd i’r eithaf dros ein rhyddid yn ystod yr Ail Ryfel Byd."
Ychwanegodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'r cofebion hyn yn fwy na strwythurau; maen nhw’n fannau ffocws lle gall ein cymunedau gofio a meddwl. Mae'r Arweinydd a minnau yn hynod falch fod ein Cyngor wedi buddsoddi i warchod y tirnodau pwysig hyn ar gyfer yr achlysur arwyddocaol hwn ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Ariannwyd y gwaith trwy gyllideb Wrth Gefn Dewis Polisi yr Aelodau yn rhan o raglen ehangach Gwanwyn Glân a Mwy i wella ymddangosiad y Fwrdeistref.
Roedd adfer Cofeb Ryfel Pontnewydd yn dilyn gwaith i lanhau'r Senotaff gan wirfoddolwyr lleol.
Cynhelir gwasanaeth i gofio 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn Eglwys Sant Gabriel, Cwmbrân, am 11am ddydd Iau 8 Mai. Dangosir ffilm o filwyr lleol a'u teuluoedd. I gynnwys lluniau o'ch anwyliaid, anfonwch nhw trwy e-bost i chris.slade@torfaen.gov.uk