Helpwch i lunio llwybrau cerdded a seiclo

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 12 Mehefin 2025

Rydym yn diweddaru ein map rhwydwaith teithio llesol a hoffem glywed eich barn am lwybrau cerdded a seiclo yn y fwrdeistref.

Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithiau lle mae pobl yn cerdded, yn seiclo, neu'n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd i fynd i’r gwaith, yr ysgol, siopau neu i gymdeithasu. Gall hefyd gyfeirio at y teithiau y mae pobl yn eu cymryd i gyrraedd gorsaf fysiau neu drenau.

Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i'r cyngor ddiweddaru ei fap sy'n amlinellu llwybrau teithio llesol presennol ac yn y dyfodol bob 4 blynedd.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i nodi llwybrau newydd, llwybrau y gellid eu dileu o bosibl, a hefyd gwelliannau i lwybrau presennol, megis newidiadau i leoliadau cyrbiau isel a mannau croesi, neu gyfleusterau ychwanegol, fel meinciau neu storfeydd beiciau.

Dywedwch wrthym beth ydych chi'n meddwl ar-lein neu’n bersonol erbyn dydd Sul, Awst 31.

Cliciwch: dweudeichdweud.torfaen.gov.uk/helpwch-ni-i-lunio-siap-rhwydwaith-teithio-llesol-torfaen neu siaradwch â'r tîm teithio llesol yn un o'r digwyddiadau canlynol:

  • Digwyddiad Mawr Cwmbrân – Dydd Sadwrn, 14 Mehefin (trwy gydol y dydd)
  • Marchnad Pont-y-pŵl – Dydd Mercher, 25 Mehefin (10am-2.30pm)
  • Diwrnod Treftadaeth y Byd, Blaenafon – Dydd Sadwrn, 28 Mehefin  (trwy gydol y dydd) 
  • Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon – Dydd Gwener. 11 Gorffennaf (10am-2.30pm)
  • Parti yn y Parc, Pont-y-pŵl – Dydd Sadwrn, 12 Gorffennaf  (trwy gydol y dydd) 
  • Llyfrgell Cwmbrân – Dydd Iau, 17 Gorffennaf (10-2.30pm)

Dywedodd Mark Thomas, Cyfarwyddwr Cymdogaethau a'r Amgylchedd: "Mae manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac iechyd enfawr i gefnogi trigolion i allu teithio'n fwy lledol.

Mae cael llwybrau diogel, hygyrch sy'n cysylltu trigolion â'r lleoedd lle mae angen iddynt fynd iddynt fel gweithleoedd, ysgolion ac ardaloedd siopa yn hanfodol.

Mae eich adborth yn hanfodol er mwyn i ni ddeall pa lwybrau sy'n gweithio'n dda a beth y gellid ei wella."

Bydd eich barn yn helpu i lunio'r map newydd a fydd yn destun ymgynghoriad pellach y flwyddyn nesaf ac yn cael ei gwblhau yn 2027.

Bydd y map newydd yn helpu i flaenoriaethu ceisiadau am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y cyngor hefyd £5 miliwn ychwanegol i wella ffyrdd yn y fwrdeistref dros y pum mlynedd nesaf. 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/06/2025 Nôl i’r Brig