Wedi ei bostio ar Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025
Mae'r rhan fwyaf o'r targedau a nodwyd yng Nghynllun Sirol Cyngor Torfaen wedi'u cyrraedd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan helpu'r Cyngor i wneud cynnydd da ar ei daith tuag at wella tegwch iechyd.
Mae'r egwyddorion 'Marmot' ar degwch iechyd yn darparu'r nodau hirdymor i'r Cyngor. Mae'r rhain wedyn yn cael eu troi'n gynlluniau cyflawni blynyddol y Cynllun Sirol sy'n nodi'r camau a fydd yn cael eu cymryd bob blwyddyn ariannol i gyflawni targedau'r Cyngor.
Yr wythnos diwethaf, dangosodd adroddiad i'r cyngor llawn fod bron i dri chwarter targedau'r cynllun cyflawni ar gyfer 2024 i 2025 naill ai’n mynd i gyrraedd y targed neu wedi'u cwblhau.
Mae un prosiect, wedi'i lywio gan Asesiad Digonolrwydd Chwarae’r llynedd, wedi gweld y cyngor yn lansio ystafelloedd synhwyraidd newydd ar draws y fwrdeistref.
Mae'r ystafelloedd synhwyraidd wedi croesawu dros 50 o blant, gan ddarparu mannau sy'n cefnogi eu cyfathrebu, sgiliau echddygol, chwarae a datblygiad emosiynol - gan helpu i ddatblygu hyder a sylfeini dysgu gydol oes.
Wedi'i chyflwyno gan Wasanaeth Chwarae Torfaen, mae'r cynllun newydd yn adlewyrchu ymrwymiad y cyngor i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn, ac mae’n gam pwysig at roi mynediad cyfartal i blant ag anableddau i gyfleusterau cymunedol cynhwysol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gwblhau ysgol newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Maendy, estyniad o 50 lle yn Ysgol Crownbridge a chae 3G yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw. Mae cartref preswyl arbenigol newydd i bobl ifanc sy’n derbyn gofal hefyd wedi agor, gyda chynlluniau ar gyfer dau arall.
Mae timau'r Cyngor hefyd wedi delio â bron i dair mil o ymholiadau am gymorth cyflogadwyedd a sgiliau, wedi rhoi £24m mewn cymorth budd-dal tai, ac wedi dyfarnu mwy na £500,000 ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi bwyd cynaliadwy lleol.
Roedd ychydig dros un o bob pump o'r camau gweithredu cynllun cyflawni yn y categori ambr, sy'n golygu bod oedi wedi bod, gan gynnwys datblygu strategaeth fwyd ar gyfer y fwrdeistref a gosod tri yn hytrach na phedwar pwmp gwres i fynd i'r afael ag allyriadau carbon.
Roedd tua thri y cant o'r targedau yn y categori coch gydag oedi mwy sylweddol, roedd y rhain yn cynnwys cynlluniau i gynyddu nifer yr ymwelwyr â llyfrgelloedd a rhaglen wirfoddol Darllen i Mi. Cafodd dau weithgaredd eu categoreiddio fel rhai wedi'u canslo.
Dywedodd David Leech, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol Cyngor Torfaen ar gyfer Oedolion a Chymunedau: "Ein huchelgais o hyd yw bod yn gyngor rhagorol ac uchelgeisiol. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae ein gwasanaethau wedi cyrraedd y mwyafrif o'r targedau a osodwyd.
"Mae gennym reolaeth drylwyr o brosiectau i sicrhau bod unrhyw dargedau na chafodd eu cyrraedd o fewn yr amserlen yn parhau i symud ymlaen, ac rwy'n falch o'r hyn y mae'r cyngor hwn a'i staff wedi'i gyflawni."
Daeth Cyngor Torfaen yn un o'r Cynghorau Marmot cyntaf yng Nghymru ym mis Hydref 2022, gan ymrwymo i leihau anghydraddoldebau iechyd trwy weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r Cynllun Sirol yn strategaeth bum mlynedd sy'n nodi nodau gwasanaeth hirdymor y cyngor, gyda chefnogaeth cynlluniau cyflawni blynyddol sy'n cael eu monitro bob chwarter i olrhain cynnydd.
Gallwch olrhain cynnydd Cynlluniau Cyflawni eleni a rhai blaenorol ar wefan y cyngor.