Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Gorffennaf 2025
Mae grŵp Gwarchod Cymdogaeth wedi cofrestru ar gyfer ymgyrch y Cyngor i atal baw cŵn.
Mae'r cydweithio hwn yn gam arall ymlaen yn y frwydr yn erbyn baw cŵn; problem barhaus sy'n effeithio ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, a’r gallu i fwynhau mannau a rennir.
Trwy ymuno â'r fenter, bydd y grŵp yn helpu i fonitro ardaloedd problematig, adrodd am ddigwyddiadau, a chodi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion am bwysigrwydd glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.
Meddai cynrychiolydd o'r grŵp Gwarchod Cymdogaeth: "Rydyn ni’n falch o gefnogi ymdrechion y Cyngor i gadw ein strydoedd a'n parciau yn lân.
"Mae baw cŵn yn annymunol – ond mae hefyd yn berygl i iechyd. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn annog ymddygiad mwy cyfrifol a gwneud ein cymuned yn lle gwell i bawb."
Mae mwy na 40 o becynnau Codwch E wedi cael eu dosbarthu ymhlith grwpiau gwirfoddol, clybiau chwaraeon ac ysgolion ers lansio'r ymgyrch fis diwethaf.
Mae'r pecynnau’n cynnwys chwistrell sialc eco- gyfeillgar a stensil i dynnu sylw at achosion o faw cŵn, baner finyl a sticeri bin i annog pobl i riportio baw cŵn, a bagiau baw cŵn am ddim i'w rhoi i berchnogion cŵn.
Gofynnir i bob grŵp sy'n cael pecyn i gofnodi nifer yr achosion o faw cŵn maen nhw'n dod o hyd iddynt yn wythnosol ar-lein.
Bydd ein swyddogion gorfodi sifil yn defnyddio’r wybodaeth hon i nodi ardaloedd ar gyfer ymgyrchoedd addysg a gorfodi wedi'u targedu.
Os ydych chi'n grŵp gwirfoddol, yn grŵp cymunedol, yn glwb chwaraeon neu’n ysgol ac eisiau ymuno â'r ymgyrch Codwch E, anfonwch neges trwy e-bost i pickitup@torfaen.gov.uk i gael pecyn am ddim.
Mae methu â chodi baw eich ci mewn man cyhoeddus yn drosedd, a gallech wynebu dirwy o £100.
Gall perchnogion cŵn roi bagiau baw cŵn mewn unrhyw fin sbwriel yn y Fwrdeistref.
Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd gefnogi'r ymgyrch drwy adrodd am achosion o faw cŵn ar-lein neu drwy'r ap FyNhorfaen.
Rhan-ariannwyd yr ymgyrch Codwch E gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.