Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Mae saith ystafell synhwyraidd newydd wedi agor ledled Torfaen ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r ystafelloedd wedi'u cynllunio i ysgogi'r synhwyrau trwy olau, sain, cyffwrdd a symudiad - gan gynnig amgylchedd tawel a therapiwtig.
Mae'r cynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus Asesiad Digonolrwydd Chwarae diweddar, a amlygodd y galw am amgylcheddau chwarae wedi'u haddasu i anghenion plant ag anableddau a'u teuluoedd.
Mae'r ystafelloedd synhwyraidd newydd yn:
- Neuadd Gymunedol Glenside, wrth Meadowbrook Avenue, Pontnewydd, Cwmbrân
- Eglwys Victory, Greenforge Way, Springvale, Cwmbrân
- Neuadd Brynhyfryd, Mount Pleasant Road, Pontnewydd
- Neuadd Glansychan, Glansychan Lane, Abersychan
- Chwarae’r Ganolfan Ddinesig, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl
- Neuadd Gymunedol Bryn Eithin, Leadon Court, Bryn Eithin, Cwmbrân
- The Cockerel – Neuadd Gymunedol Greenmeadow a Sain Derfel, Cwmbrân
Mae'r ystafelloedd synhwyraidd ar gael i'w llogi gan rieni, gofalwyr, grwpiau cymunedol a phobl broffesiynol. Er nad oes tâl, croesewir rhoddion.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Bydd y cyfleusterau synhwyraidd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant ag anableddau.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo'u gallu, yn gallu cael mynediad cyfartal at fannau cymunedol cynhwysol, croesawgar gyda'u teuluoedd."
Dywedodd Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Torfaen:
"Mae chwarae’n hanfodol i ddatblygiad plentyn, ac rwy'n falch bod ein gwasanaeth chwarae o'r radd flaenaf yn parhau i dyfu o nerth i nerth.
"Mae creu'r ystafelloedd synhwyraidd newydd hyn yn ymateb uniongyrchol i'r hyn y dywedodd teuluoedd wrthym eu bod ei angen, ac maen nhw'n adlewyrchu ymrwymiad ein Cynllun Sirol i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn."
I wybod mwy neu i archebu sesiwn, cysylltwch â Gwasanaeth Chwarae Torfaen trwy torfaenplay@torfaen.gov.uk