Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025
Yn ystod mis Rhagfyr, mae tîm arlwyo Cyngor Torfaen wedi bod yn dod â llawenydd y Nadolig i foliau plant y sir, gan blatio mwy na 7,000 o giniawau twrci Nadolig mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref.
Paratowyd bron i un dunnell o dwrci a thair tunnell o lysiau - mae hynny tua’r un pwysau â phob un o naw carw Siôn Corn gyda’i gilydd.
Meddai Zakk, disgybl ym Mlwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, a gafodd ei ginio ddydd Mercher: "Roeddwn i wrth fy modd â'r pwdin Nadolig a'r cwstard, dyma'r peth gorau."
Meddai Amelia, disgybl ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw: "Roedd y gerddoriaeth a'r awyrgylch yn y neuadd ginio yn hyfryd wrth i ni gerdded i mewn, ac roedd y cinio yn anhygoel. Y peth gorau oedd y pwdin."
Mae’r gwasanaeth hefyd wedi arlwyo ar gyfer sawl parti Nadolig yn yr ysgolion ac wedi trefnu gwledd Nadoligaidd i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghwmbrân.
Meddai Tracy James, Uwch-reolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Arlwyo Torfaen: "Ymdrech anhygoel arall gan staff arlwyo ac ysgolion ar draws y sir. Mae ein staff arlwyo yn gyfarwydd iawn â pharatoi cannoedd o brydau ysgol bob dydd, ond mae’r Cinio Nadolig yn ddiwrnod arbennig bob tro ac maen nhw'n gwneud mwy na’r disgwyl."
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Arlwyo Torfaen wedi partneru â Phrifysgol Caeredin i fesur ôl troed carbon bwydlenni ysgolion a’i leihau.
Maen nhw wedi llwyddo i leihau allyriadau tua thraean am bob cilo o fwyd – a’r cyfan tra’n cynnig mwy o ddewis i ddisgyblion a darparu map trywydd bwyd cynaliadwy newydd.
Mae'r tîm hefyd wedi bod yn rhan o brosiect peilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion sy'n anelu at gael mwy o lysiau o Gymru a gynhyrchir yn organig mewn prydau ysgol gynradd ledled Cymru.
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae ein gwasanaeth arlwyo arobryn yn gwneud gwaith gwych trwy gydol y flwyddyn. Mae eu hymrwymiad i fwyd cynaliadwy o ffynonellau lleol o fudd i ddisgyblion a hefyd yn cefnogi ein haddewid i leihau ôl troed carbon Torfaen."
"Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn i bawb ac edrychaf ymlaen at groesawu disgyblion ac athrawon yn ôl yn llawn egni o’r newydd, yn barod ar gyfer y Flwyddyn Newydd."
Gallwch weld beth sydd ar y fwydlen yn y Flwyddyn Newydd ar wefan y Cyngor.