Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Rhagfyr 2025
Unwaith eto, mae Apêl Siôn Corn flynyddol Torfaen wedi rhagori ar bob disgwyliad, a miloedd o anrhegion wedi dod i law er mwyn dod â hwyl yr Ŵyl i blant a phobl ifanc ar draws y Fwrdeistref.
Diolch i haelioni anhygoel trigolion a busnesau lleol, bydd mwy na 300 o blant a phobl ifanc, a fyddai fel arall wedi colli allan y Nadolig hwn, yn cael anrhegion mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.
Mae’r Apêl yn ei 20fed flwyddyn erbyn hyn, ac mae’n casglu rhoddion a bwydydd i blant a gefnogir gan dîmau Gwasanaethau Plant y Cyngor, Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Torfaen a thimau Teuluoedd yn Gyntaf.
Eleni, mae’r rhoddion hefyd wedi helpu i greu 25 o hamperi yn llawn bwyd a hanfodion ar gyfer y cartref, ochr yn ochr â 60 o hamperi a wnaed ymlaen llaw, a fydd yn cael eu rhoi i bobl ifanc 15+ oed sy'n byw'n annibynnol.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn ddiolch o galon i'n holl drigolion a busnesau lleol sydd wedi cefnogi'r Apêl eleni mor hael. Mae eich caredigrwydd yn sicrhau y bydd cannoedd o blant a phobl ifanc yn mwynhau Nadolig disgleiriach eleni.
"Diolch yn arbennig hefyd i'r hybiau cymunedol anhygoel a fu’n bwyntiau rhoi, gan ei gwneud yn haws i bobl gyfrannu. Mae'r cyd-ymdrech hon yn dangos nerth ein hysbryd cymunedol."
Ychwanegodd Abigail Vaughan, Rheolwr Tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: "Ar ran ein Gweithwyr Cymdeithasol a'r holl blant a phobl ifanc a gafodd anrheg drwy Apêl Siôn Corn, diolch am eich haelioni anhygoel.
"Mae eich caredigrwydd yn dod â llawenydd ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yn ystod cyfnod heriol o'r flwyddyn. Rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar am eich cymorth i wneud y Nadolig hwn yn un arbennig."