Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2025
Mae disgwyl i waith i glirio ardal o hen safle gwaith haearn y British ddechrau fis nesaf, cyn prosiect adeiladu i wella diogelwch.
Bydd llystyfiant gan gynnwys coed a llwyni’n cael ei symud o ddydd Llun Ionawr 5 ymlaen, gyda disgwyl cwblhau'r gwaith erbyn diwedd mis Chwefror.
Bydd aelodau'r cyhoedd yn dal i allu cael mynediad i'r safle, yn Nhal-y-waun, sy'n ardal boblogaidd i gerdded cŵn, ond bydd rhai ardaloedd yn cael eu hamgáu â ffens o ganol mis Ionawr.
Mae'r gwaith yn gam cyntaf prosiect adfywio ac atal llifogydd mawr sy'n canolbwyntio ar ardal o'r safle o'r enw’r Clwtyn Du.
Bydd dau ddyfrffos yn cael eu hailgyfeirio i greu pwll, a fydd yn dal dŵr gormodol ac yn lleihau'r pwysau ar gwlferi tanddaearol. Amcangyfrifir y bydd 13 siafftiau a mynedfeydd hefyd yn cael eu gwneud yn ddiogel fel rhan o'r gwaith.
Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae hon yn garreg filltir bwysig i safle’r British - mae'r prosiect Cam 1 yn hanfodol i wella diogelwch ar y safle i drigolion lleol.
"Bydd hefyd yn cefnogi bioamrywiaeth leol ac yn creu ardal fwy deniadol i bobl gerdded a mwynhau treulio amser ym myd natur."
Fis diwethaf, cynhaliwyd sesiwn galw heibio gyhoeddus yng Nghlwb Rygbi Tal-y-waun i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion lleol am yr amserlen.
Y safle 1,300 erw yw'r safle diwydiannol adfeiliedig mwyaf sydd ar ôl yn Ne-ddwyrain Cymru, a brynwyd gan y cyngor yn 2016.
Y llynedd, cymeradwyodd cynghorwyr hyd at £4.6m ar gyfer y gwaith yn ogystal â chytuno i archwilio datblygiad posibl seilwaith ynni a defnydd masnachol o dir ar safle’r British. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddwyn ymlaen fel rhan o broses Uwchgynllun newydd, a’r gobaith yw y bydd yn dechrau’r flwyddyn nesaf.
Mae'r prosiect Cam 1 wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Cyngor Torfaen.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â thebritish@torfaen.gov.uk