Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025
Mae ysgol gynradd sy’n ymfalchïo wrth fod yn gymuned feithringar wedi cael ei disgrifio fel ysgol "fywiog a chyfeillgar".
Ymwelodd arolygwyr Estyn ag Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, Pontnewynydd, fis Hydref, a chyhoeddwyd eu hadroddiad yr wythnos hon.
Ynddo, fe ddywedon nhw fod arweinwyr yr ysol yn dangos ymrwymiad cryf i les disgyblion a’u bod yn canolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Fis diwethaf, derbyniodd yr ysgol Dystysgrif Sylfaen Gwobr Ysgol Ryngwladol gan raglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Taith am ei chysylltiadau ag ysgol CEIP Flor de Azahar, yn agos at Malaga, yn Sbaen.
Ymwelodd disgyblion Blwyddyn 5 â’r ysgol yn Chwefror 2024, diolch i arian gan y rhaglen.
Dywedodd arolygwyr Estyn fod staff yn rhoi toreth o gyfleoedd cyfoethog a diddorol, gan gynnwys mewn gwyddoniaeth a mathemateg, a bod pob disgybl yn gwneud cynnydd da. Dywedon nhw hefyd fod ymddygiad y disgyblion yn "rhagorol".
Cydnabyddon nhw hefyd yr amrywiaeth o gefnogaeth les sy’n cael ei darparu gan yr ysgol, gan gynnwys clybiau brecwast maethu, yn ogystal â’r cysylltiadau cryf rhwng staff, disgyblion a rhieni.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae hwn yn adroddiad anhygoel am ysgol sy’n gwerthfawrogi buddion perthnasau, yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.
"Mae wedi arwain at amgylchedd dysgu cadarnhaol ble mae disgyblion yn teimlo bod gwerth arnyn nhw, maen nhw'n rhoi gwerth ar ei gilydd ac yn ffynnu o ran eu cyrhaeddiad academaidd."
Wrth ystyried y Dystysgrif Sylfaen Gwobr Ysgol Ryngwladol, dywedodd y Pennaeth, Sarah Truelove: "Roeddem wrth ein bodd o dderbyn y wobr hon ar ôl ein gwaith o ddatblygu Sbaeneg fel ein prif iaith dramor.
"Profodd y plant ddiwylliant gwbl wahanol ac ymwelon nhw â’r ysgol yn ddyddiol am bum diwrnod i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau, gan gynnwys carnifal Sbaenaidd.
"Roedd yr ymweliad yn cefnogi ein hymrwymiad i amrywiaeth a chydraddoldeb a dysgu rhyngwladol. Ar ôl ein hymweliad daeth rhai o’r staff a’r plant o Ysgol CEIP Flor de Azahar School i gymryd rhan yn ein Heisteddfod."
Gwnaeth yr arolygwyr un argymhelliad - maen nhw wedi cynghori’r ysgol i adolygu ei ymagwedd tuag at Ddysgu Sylfaen i sicrhau bod disgyblion iau yn datblygu’n gyson.