Dathlu 20 mlynedd o dwf busnes

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025
Innovation Centre

Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard, canolfan allweddol ar gyfer menter, mentergarwch, arloesi a thwf busnes yn Nhorfaen, yn nodi ei phen-blwydd yn 20 oed

Ers aros ei drysau yn 2005, mae Springboard wedi cefnogi dros 150 o fusnesau, gan helpu i greu dros 500 o swyddi a denu dros £12 miliwn mewn buddsoddiad.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Springboard wedi dod yn fwy na dim ond gweithle - mae'n gymuned lle mae syniadau’n ffynnu trwy ysbryd cydweithio.

O fusnesau technoleg newydd i fentrau creadigol, mae'r ganolfan wedi darparu gofod swyddfa hyblyg, cyngor arbenigol, a chyfleoedd rhwydweithio sydd wedi galluogi busnesau i ffynnu a llwyddo.

Wrth i Springboard ddathlu ei charreg filltir 20 mlynedd, mae cynlluniau eisoes ar waith i sicrhau bod y ganolfan yn parhau i ddiwallu anghenion esblygol busnesau am ddegawdau i ddod.

Mae'r cynlluniau sydd ar ddod yn cynnwys trawsnewidiad digidol mawr, gyda chyfleusterau wedi'u huwchraddio a thechnoleg flaengar i gefnogi gweithio hybrid a mentrau digidol-yn-gyntaf.

Mae'r ganolfan hefyd yn cofleidio arloesedd gwyrdd trwy gyflwyno arferion cynaliadwy a seilwaith ynni-effeithlon yn unol â nodau hinsawdd y cyngor.

Hefyd, bydd gwasanaethau cymorth wedi eu hehangu’n darparu mentora gwell, cyngor ar ariannu, a rhaglenni datblygu sgiliau i helpu busnesau i ehangu. Mae cryfhau cydweithredu cymunedol yn flaenoriaeth arall, gyda phartneriaethau dyfnach ar y gweill gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol i feithrin y genhedlaeth nesaf o fentrwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae Springboard wedi bod yn allweddol wrth ffurfio tirwedd fusnes Torfaen.

“Wrth i ni edrych at y dyfodol, mae ein ffocws ar greu amgylchedd ble gall arloesi ffynnu a ble gall busnesau addasu i heriau a chyfleoedd byd sy’n newid yn gyflym."

Nodwyd yr 20fed pen-blwydd gyda digwyddiad arbennig yn cynnwys arddangosfa o storïau llwyddiant gan fusnesau sydd wedi tyfu gyda chefnogaeth Springboard.

Ymhlith y rhai oedd yn dathlu roedd David Harlow, Prif Weithredwr pH Innovate a chyn-denant Springboard, a rannodd ei brofiad: "Pan ddechreuais mewn busnes, roedd Springboard a'r tîm yno i mi, ac fe wnaethon nhw barhau i fod trwy gydol fy nhaith fusnes.

"Rydw i wedi dechrau llawer o fusnesau dros y blynyddoedd - roedd y rhan fwyaf ohonynt yn llwyddiant, ond methodd rhai ohonynt - a'r hyn a welais yn ddefnyddiol iawn oedd nad oeddwn yn cael fy nghlymu i gontractau hir. Roedd yr hyblygrwydd o rentu lleoedd yn union yr hyn yr oeddwn ei angen ar y pryd.

"Dyma un o'r rhesymau pam ddes i yn ôl i Springboard dro ar ôl tro.  Roedd yn rhoi lle i anadlu sydd ei angen arnyn nhw i fentrwyr newydd, ac roeddwn i'n gwybod, os oedd gen i unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â busnes, bod y tîm bob amser wrth law.

"Rwy'n falch o fod yn gysylltiedig â Chanolfan Arloesi Busnes Springboard, ac yn dymuno pob lwc iddi am yr 20 mlynedd nesaf."

Esboniodd Iestyn Foster, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Amotio Health, enillwyr gwobr Busnes Arloesi a Thechnoleg y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent yn ddiweddar, pam mai Springboard oedd y dewis perffaith ar gyfer eu busnes sy'n tyfu: "Pan oeddwn i'n chwilio am leoliad i ddechrau'r busnes, roedd Springboard yn gweddu i’r dim.

"Roedd y cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog yn ei gwneud hi'n gyfleus, ac roedd y gofod a gynigiwyd yn union yr hyn yr oedd ei angen arnom.

"Yn Springboard mae gennym ein labordy ein hunain, a lle i ehangu os oes ei angen arnom yn y dyfodol."

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2025 Nôl i’r Brig