Ysgol uwchradd i fod yn esiampl i eraill

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 1 Rhagfyr 2025

Mae’r ffordd y mae un ysgol uwchradd yn datblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol gyda disgyblion, yn mynd i gael ei hamlygu er mwyn i eraill ei gweld.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd arolygwyr Estyn fod Ysgol Croesyceiliog yn "gymuned groesawgar a chefnogol y mae disgyblion a staff yn falch o fod yn perthyn iddi".

Dywedodd fod perthnasoedd cadarnhaol yn gryfder nodedig yn yr ysgol ac wedi arwain at welliannau mewn presenoldeb, ymddygiad a chanlyniadau addysgol, yn enwedig i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae'r ysgol bellach wedi cael gwahoddiad i gyflwyno’i ffordd o ddysgu ar y cyd, i Estyn, fel esiampl i eraill.

Meddai’r Pennaeth, Natalie Richards: "Rydym wrth ein boddau fod yr adroddiad yn cydnabod y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud a'r ymdeimlad cryf o berthyn yng nghymuned ein hysgol.

"Dyma ddathlu gwaith caled ac ymroddiad ein staff, disgyblion, llywodraethwyr a theuluoedd. Mae ein dull cynhwysol a'n hymrwymiad i gefnogi pob dysgwr yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono."

Yn ôl yr arolygwyr, mae gan yr ysgol weledigaeth glir ar gyfer ei chwricwlwm, a ddatblygwyd gyda disgyblion, rhieni, llywodraethwyr, ac ysgolion cynradd partner, ac sy’n cynnwys pum ystyriaeth: adborth, cymhwyso sgiliau, herio pawb, esbonio, a pharodrwydd i ddysgu.

Cefnogir y cwricwlwm gan Faniffesto Dysgu yr ysgol, sy'n canolbwyntio ar gyd-barch a pherthnasoedd gweithio cadarnhaol.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Llongyfarchiadau i staff, disgyblion a'r gymuned ehangach yn Ysgol Croesyceiliog am adroddiad rhagorol gan Estyn. Mae gan yr ysgol weledigaeth glir ar gyfer ei holl ddisgyblion ac mae’n cael ei chefnogi gan amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol."

Fis diwethaf, cynhaliodd yr ysgol ddigwyddiad i nodi Dydd Rhyngwladol y Dynion, yn dilyn digwyddiad tebyg i nodi Dydd Rhyngwladol y Merched fis Mawrth.

Gwnaeth arolygwyr Estyn dri argymhelliad: gwella prosesau hunanwerthuso, cynyddu cyfleoedd i gymhwyso sgiliau rhifedd a digidol, a mwy o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg a dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru.

Darllenwch yr adroddiad: chrome-extension://efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj/https://www.estyn.llyw.cymru/app/uploads/2025/11/Rhieni-a-gofalwyr-Adroddiad-arolygiad-Ysgol-Croesyceiliog-2025.pdf 

Diwygiwyd Diwethaf: 01/12/2025 Nôl i’r Brig