Rhaglen £6.4m i ail wynebu ffyrdd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 26 Awst 2025
Better Roads Mandy + graham + logo

Mae'r cyngor yn buddsoddi £6.4m yn ychwanegol i wella ffyrdd lleol dros y pum mlynedd nesaf.

Amcangyfrifir y bydd 80 o ffyrdd yn cael eu hail-wynebu fel rhan o'r buddsoddiad sylweddol, gyda gwaith yn dechrau ar y strydoedd cyntaf yr wythnos hon.

Mae'n dilyn arolwg o briffyrdd ar draws y fwrdeistref a ganfu, er bod y mwyafrif o ffyrdd dosbarthedig - neu brif ffyrdd - yn bodloni safonau cenedlaethol, mae angen atgyweirio nifer sylweddol o isffyrdd.

Bydd trigolion yn cael gwybod ymlaen llaw am waith ail-wynebu a bydd ffyrdd ar gau dros dro. Bydd gofyn i drigolion beidio â pharcio ar y strydoedd tra bod gwaith ail-wynebu’n digwydd.

Aeth y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, i weld dechrau'r gwaith yn Florence Place, yn Nhref Gruffydd, heddiw.

Dywedodd: "Mae'r ffyrdd o amgylch ein cartrefi’n hanfodol i fywydau pob dydd trigolion, felly rwy'n falch iawn ein bod ni'n mynd i fuddsoddi £6.4m yn y strydoedd cefn y mae ein trigolion yn eu defnyddio amlaf.

"Strydoedd cefn yw'r rhan fwyaf o'n rhwydwaith priffyrdd ac maen nhw’n hanfodol ar gyfer teithiau pob dydd pobl. Bydd y gwaith hwn yn golygu ffyrdd o ansawdd gwell a chymunedau mwy llewyrchus."

Mae Waunddu, ym Mhontnewynydd, a Leigh Road, Trefddyn, hefyd yn mynd i gael eu hail-wynebu’r wythnos hon.

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £4m a £2.44m gan Gynllun Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â rhaglen flynyddol y cyngor o gynnal a chadw priffyrdd.

Bydd manylion y ffyrdd sydd yn mynd i gael eu hail-wynebu yn cael eu rhannu'n wythnosol trwy fwletin Newyddion Wythnosol y cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2026 Nôl i’r Brig