Cau ffyrdd ar gyfer ras Tour of Britain

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Awst 2025
Tour of Britain - the routes

Bydd Pont-y-pŵl yn cynnal Pumed Cymal ras feicio y Tour of Britain ddydd Sadwrn 6 Medi, gan nodi ymddangosiad cyntaf y dref yn y ras ryngwladol fawreddog hon.

Er mwyn sicrhau diogelwch seiclwyr a gwylwyr, bydd nifer o ffyrdd ar gau trwy gydol y dydd:

Cau ffordd dreigl:

Bydd cau ffordd dreigl, fer ar gau ar hyd Usk Road, o Gatiau Parc Pont-y-moel i Famheilad, rhwng 11:30am ac 11:45am, gan ganiatáu i feicwyr adael Parc Pont-y-pŵl yn ddiogel a dechrau'r ras tuag at Sir Fynwy.

Cau ffordd dros dro:

Bydd cau ffordd yn llawn o Flaenafon ar hyd y B4246 Abergavenny Road i Usk Road, Pont-y-pŵl, rhwng 1:30pm a 2:30pm ar gyfer dychwelyd y ras trwy Dorfaen.

Disgwylir i feicwyr basio trwy'r adran hon mewn llai na 30 munud, gyda ffyrdd yn ailagor yn brydlon ar ôl i'r peloton glirio.

Cau wrth y llinell derfyn:

Bydd ffordd ar gau'n llawn o School Lane, Gofilon, i gyffordd Garn Road, Blaenafon, rhwng 6:30am a 6:30pm i hwyluso cymal olaf y ras.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda threfnwyr y ras i leihau tarfu a sicrhau bod cyfnod cau’r ffyrdd mor fyr â phosibl. Rydym yn annog trigolion a busnesau i gynllunio ymlaen llaw a mwynhau'r digwyddiad yn ddiogel.

"Mae cynnal Pumed Cymal ras y Tour of Britain yn foment wych i Bont-y-pŵl a chymuned ehangach Torfaen. Mae'n gyfle prin i weld rhai o seiclwyr gorau'r byd yn agos, ac rydym wrth ein bodd cael bod yn rhan o'r digwyddiad eiconig hwn.”

Mae manylion pellach, gan gynnwys, gan gynnwys mapiau a chyfarwyddyd i wylwyr ar gael trwy https://www.britishcycling.org.uk/tourofbritain

Diwygiwyd Diwethaf: 19/08/2025 Nôl i’r Brig