Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Medi 2024
Bydd Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl yn cael ei goleuo'n goch ddydd Sadwrn, ynghyd ag adeiladau cyhoeddus eraill yng Nghymru, i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd.
Amcangyfrifir bod gan 2,500 o blant Nychdod Cyhyrol Duchenne (DMD) yn y DU, ac mae’n effeithio'n bennaf ar fechgyn ac yn achosi gwendid cynyddol yn y cyhyrau.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Aelod o’r Senedd dros Gasnewydd, John Griffiths, wedi bod yn ymgyrchu i wella bywydau pobl sy'n byw gyda'r cyflwr, fel Elliot Vers.
Cafodd Elliot o Gasnewydd, sy’n chwech oed, ddiagnosis o DMD sawl blwyddyn yn ôl.
Meddai John: "Daeth y cyflwr i fy sylw wrth i mi gyfarfod ag un o fy etholwyr ifancach, Elliot, a'i fam Lucy. Elliot yw’r bachgen anwylaf allech chi ei ddychmygu, ond roedd yn dorcalonnus clywed ei fam yn adrodd ei stori.
"Ar hyn o bryd, does dim treialon ymchwil clinigol na gofal arbenigol yng Nghymru i blant sydd â Duchenne, felly mae Lucy a fy swyddfa i wedi bod yn gweithio'n agos i newid hyn - ac rydyn ni'n obeithiol! Trwy weithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Duchenne UK, byrddau iechyd Cymru a sefydliadau eraill, rydyn ni’n gwybod bod newid ar droed."
Nychdod Cyhyrol Duchenne yw un o'r mathau mwyaf difrifol o nychdod cyhyrol sy’n cael ei etifeddu.
Diolch byth, mae Elliot yn dod yn ei flaen yn dda ac mae’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i'r ysgol yr wythnos hon.
Am ragor o wybodaeth am Nychdod Cyhyrol Duchenne ac i helpu i ledaenu'r gair, ewch i https://www.duchenneuk.org/about-duchenne-muscular-dystrophy/