Wedi ei bostio ar Dydd Llun 30 Medi 2024
Yr wythnos hon, bydd y gwaith yn dechrau ar ailddatblygiad gwerth £3.7m o Fferm Gymunedol Greenmeadow, gyda'r fferm i ailagor yng Ngwanwyn 2025.
Mae Coley Hill Consultancy wedi cael eu cyflogi gan y cyngor i lunio gweledigaeth a chynllun newydd i’r fferm ac mae dechrau’r gwaith adeiladu’n nodi carreg filltir ar y daith tuag at ailagor.
Dywedodd Gay Coley, un o aelodau sefydlol y tîm ym Mhrosiect Eden, “Mae ein cynllun yn cynnwys adnewyddu’r adeiladau hanesyddol, creu mannau awyr agored a dan do newydd ar gyfer bwyta, yfed, dysgu a chwarae, beth bynnag yw’r tywydd. Bydd buddsoddiad y cyngor yn rhoi bywyd newydd i’r fferm, a bydd hyn yn golygu y gall pobl leol ac ymwelwyr newydd ddod a dysgu am fwyd a ffermio.”
Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Rydym yn hynod o falch y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ar y tir ac mae’r garreg filltir bwysig hon yn nodi’r cam nesaf yn adnewyddiad, adfywiad ac ailagor Fferm Gymunedol Greenmeadow.
“Mae’r cyfleusterau newydd wedi eu dylunio gyda’r bwriad o gadw hanes a threftadaeth anhygoel y fferm a diweddaru ac ehangu’r cyfleusterau a fydd yn gwella hygyrchedd i bob ymwelydd. Mae cael peiriannau trwm ar y safle’n gam cyffrous yn y broses o ddod â’n gweledigaeth ar gyfer y fferm yn fyw.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae’r buddsoddiad gan y cyngor yn rhoi sail gadarn i ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r fferm a bydd yn sicrhau bod y fferm yn dod yn ased cymunedol bywiog. Bydd y cyfleusterau newydd yn dod â bywyd newydd i’r fferm, a bydd unwaith eto’n dod yn atyniad ymwelwyr anhygoel i deuluoedd lleol a chwsmeriaid o ar draws y rhanbarth.
Bydd ailddatblygiad newydd y fferm yn cynnwys:
- ysgubor wair ar ei newydd wedd a fydd yn addas ar gyfer digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys priodasau a phartïon
- ysgubor chwarae dan do newydd gydag offer chwarae ac ardal chwarae antur newydd yn yr awyr agored
- ysgubor anifeiliaid newydd
- caffi newydd mwy helaeth
- siop fferm wedi ei wella i hyrwyddo cynnyrch lleol a chyflenwyr
- tirweddu deniadol gyda choetiroedd, llwybrau a llwybrau synhwyraidd
- gwelliannau i fynedfa’r fferm a hygyrchedd y safle.
Bydd y fferm hefyd yn elwa o fuddsoddiad mewn llwybrau hygyrch newydd o amgylch y fferm a system gwresogi ynni-effeithlon newydd.
Rhoddwyd y cytundeb ar gyfer adeiladwaith i G Oakley and Sons ar ôl proses dendro gystadleuol.