Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Tachwedd 2024
Mae mwy o ddisgyblion ysgolion cynradd nag erioed yn y fwrdeistref yn cerdded, seiclo neu’n mynd ar gefn eu sgwter i'r ysgol.
Yn ôl arolwg diweddaraf Dwylo i Fyny, Cymru gyfan, mae Torfaen yn y 4edd safle o ran y canran uchaf o ddisgyblion sy’n teithio’n llesol i’r ysgol - cynnydd o wyth lle o gymharu â’r llynedd.
Mae arolwg blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mesur nifer y disgyblion sy'n cerdded, seiclo neu’n mynd ar gefn eu sgwter i'r ysgol ym mis Mehefin.
Yn ôl canlyniadau eleni, fe wnaeth canran uwch o ddisgyblion gymryd rhan yn yr arolwg nag yn unman arall yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod 63% o blant Torfaen yn teithio'n llesol i'r ysgol ac yn ôl, ac mae hynny’n wych. Y canran y llynedd oedd 46% felly rydym wrth ein bodd gyda'r cynnydd.
“Mae'r canlyniadau hyn yn arbennig o addas oherwydd ei bod yn Wythnos Hinsawdd Cymru, sy'n hyrwyddo camau fel teithio llesol a all leihau newid yn yr hinsawdd.
“Mae arolygon fel y rhain mor bwysig am eu bod yn hanfodol i'n helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol llwybrau teithio llesol ger ysgolion.
“Felly, hoffwn ddiolch i ysgolion cynradd am gymryd rhan yn yr arolwg. Mae wir yn gyflawniad mawr!”
Dywedodd Pennaeth Ysgolion Cynradd Cymunedol Heol Blenheim a Choed Eva, Mr Keane: "Mae newid ein cymuned â’n gwlad er gwell yn rhan greiddiol o genhadaeth ein ffederasiwn ysgolion.
“Gyda newidiadau bach teithio llesol, rydym wedi nerthu ein disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodaeth am newid yn yr hinsawdd.
“Rydym wrth ein bodd â’n twf blynyddol o 13% wrth i ni weithio tuag at fod pawb yn chwarae eu rhan wrth daclo effeithiau newid yn yr hinsawdd."
Er 2021 mae tîm teithio llesol y cyngor wedi gweithio gyda 15 ysgol i ddatblygu cynlluniau teithio llesol ar gyfer yr ysgolion. Maent hefyd yn gweithio gyda sawl ysgol arall ar hyn o bryd i greu cynlluniau i gynyddu siwrneiau teithio llesol.
Fel rhan o'r rhaglen, mae'r tîm yn gweithio gyda phob ysgol i nodi ffyrdd o gynyddu nifer y disgyblion sy'n cerdded, seiclo neu’n mynd ar gefn sgwter i'r ysgol. Mae hyn yn cynnwys gwella llwybrau seiclo a cherdded, a mwy o le i storio beiciau a sgwteri.
Mae'r tîm, ochr yn ochr â Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor hefyd yn cynnig hyfforddiant beiciau cydbwyso, hyfforddiant hyfedredd a rhaglenni ymwybyddiaeth.
Mae annog preswylwyr i deithio'n llesol yn rhan o ymrwymiad y cyngor i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Darllenwch y Cynllun Sirol i gael mwy o wybodaeth.
Dysgwch mwy am deithio llesol yn Nhorfaen