Ailddechreuodd cyfarfod a chyfarch yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 2 Mai 2024

Mae Canolfan Ailgylchu y Cartref wedi dechrau cyfarch ymwelwyr â’r safle yn Y Dafarn Newydd unwaith eto.

Er mwyn helpu trigolion a sicrhau bod y safle’n cael ei ddefnyddio’n gywir, mae’r gwasanaeth cwrdd a chyfarch wedi ailgychwyn yng Nghanolfan Ailgylchu y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Pan fydd ymwelwyr yn dod i’r safle, fe fydd rhywun yn gofyn iddyn nhw am eu cod post neu gyfeiriad er mwyn sicrhau eu bod yn byw yn Nhorfaen. Byddan nhw hefyd yn gofyn ychydig o gwestiynau am sut y byddan nhw’n defnyddio’r safle er mwyn sicrhau bod eu hymweliad mor hwylus â phosibl. Bydd aelodau o staff hefyd yn gofyn i ymwelwyr a oes angen unrhyw gymorth arnynt yn ystod eu hymweliad.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n gallu cael ei ailgylchu yng Nghanolfan Ailgylchu y Cartref

Diwygiwyd Diwethaf: 02/05/2024 Nôl i’r Brig