Cau ffordd dros dro

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 28 Mawrth 2024

Rhwng dydd Mercher 03 Ebrill a dydd Gwener 05 Ebrill, a rhwng dydd Llun 15 Ebrill a dydd Mercher 17Ebrill, fe fydd rhan o Brangwyn Avenue, Llantarnam, ar gau er mwyn gosod croesfan sebra newydd ar lwyfan uwch. 

Bydd mynediad i drigolion a’r gwasanaethau brys cyhyd ag sy’n rhesymol ymarferol.

Newidiadau i lwybrau bws
Tra bod y ffordd ar gau, bydd Stagecoach Rhif 23 yn gwasanaethu arosfannau Llantarnam Road yn unig. Nid yw’r bysiau’n gallu dilyn y llwybr amgen.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch neges e-bost i HTE.correspondence@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024 Nôl i’r Brig