Erlyn gyrrwr tacsi heb drwydded

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 5 Mawrth 2024

Mae menyw o Dorfaen wedi pledio’n euog i yrru cerbyd hacni heb y drwydded ofynnol gyrrwr tacsi wedi ei rhoi gan y cyngor. 

Ar ddydd Iau, 29 Chwefror 2024 yn Llys Ynadon Cwmbrân, plediodd Ms Kathryn Murphy o Gwmbrân, Torfaen, yn euog ar ôl iddi gael ei chanfod yn gyrru cerbyd hacni ar 16 Mehefin 2023, heb drwydded gyrrwr tacsi. 

Cafodd Ms Murphy ddirwy o £660 a’i gorchymyn i dalu costau’r cyngor o £847.26, a gordal dioddefwyr o £264, gan wneud cyfanswm o £1,771.26. Daeth yr erlyniad ar ôl ymchwiliad gan Dîm Trwyddedu Cyngor Torfaen. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae diogelwch ein trigolion wrth iddyn nhw ddefnyddio tacsis yn flaenoriaeth bennaf.

“Mae gyrwyr a cherbydau trwyddedig yn dilyn gwiriadau llym i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau sy’n bodoli i warchod anghenion a diogelwch y cyhoedd. 

“Mae tacsis trwyddedig yn cael plât gan y cyngor i fynd ar y cefn ac arwyddion i’r drysau ar bob- ochr.  Mae’r rhain yn felyn i gerbydau hacni ac yn wyrdd i gerbydau hurio preifat.  Mae gyrwyr sy’n cael trwydded gan y cyngor hefyd yn cael bathodyn.

Rwy’n annog unrhyw sydd â gwybodaeth am yrwyr tacsi heb drwydded, neu gerbydau heb drwydded yn Nhorfaen, i gysylltu â Thîm Trwyddedu’r cyngor.”

“Bydd y cyngor yn cymryd camau yn erbyn y rheiny a fydd yn torri’r gyfraith ac yn peryglu’r cyhoedd. 

I ddweud am yrrwr tacsi heb drwydded, cysylltwch â’r tîm trwyddedu trwy e-bost licensing@torfaen.gov.uk neu drwy 01633 647286.

Dysgwch fwy am drwyddedu tacsis yma cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Busnes trwy 01633 648735 neu drwy e-bost at businessdirect@torfaen.gov.uk    

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2024 Nôl i’r Brig