Ynys nofiol i greu hafan i fywyd gwyllt

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Mawrth 2024
Floating island 2

Mae ynys nofiol yn Llyn Cychod Cwmbrân wedi cael ei hatgyweirio a’i hadfer i ddenu adar sy’n nythu. 

Llusgodd Tîm Amgylcheddol Cyngor Torfaen a gwirfoddolwyr o Glwb Pysgota Crow Valley yr ynys, a oedd wedi torri, wrth ochr y llithrfa, fel bod modd ei hatgyweirio.

Mae hi nawr wedi ei hatgyweirio a’i hailblannu gyda phlanhigion brodorol, gan gynnwys Hesg Cynffonnog, Melyswellt y Gamlas, Gellesg Melyn, Llysiau’r Milwr Coch a Mintys y Dŵr, yn barod ar gyfer y tymor nythu. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’n Ddiwrnod Bywyd Gwyllt y Byd ddydd Sul, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cadwraeth bywyd gwyllt, felly rwy’n hapus ein bod ni wedi gallu creu hafan i’n bywyd gwyllt lleol. 

"Hoffwn ddiolch i Glwb Pysgota Crow Valley a oedd yn allweddol ar gyfer cwblhau’r prosiect yma ac a aeth yr ail filltir  i helpu’r contractwr ar y safle a Veronika Brannovic, o’r Partneriaethau Natur Leol, a roddodd yr arian." 

Dywedodd Kenny Pugh, o Glwb Pysgota Crow Valley: "Mae adnewyddu’r ynys nofiol wedi creu hafan newydd i wahanol rywogaethau o adar, amffibiaid a phryfed, yn ogystal â diogelu pysgod. 

"Yn hanesyddol, mae’r ynys wedi ei defnyddio gan elyrch ac ieir y gors i nythu, ond bydd yn cymryd peth amser i’w sefydlu. Crëwyd yr ynys i fod yn hafan ddiogel i adar rhan ysglyfaethwyr ar y glannau a bydd yn gwneud hyn trwy gydol y flwyddyn."

Cafodd yr ynys ei hangori eto i atal difrod mewn tywydd gwael.

Mae’r prosiect yn un o’r ffyrdd mae Cyngor Torfaen yn gweithio i gefnogi bywyd gwyllt lleol a chynyddu bioamrywiaeth, sy’n helpu i daclo newid yn yr hinsawdd.

Ers 2020, mae’r cyngor wedi lleihau ei raglen torri gwair yn y gwanwyn a’r haf mewn bron i 200 o fannau i ganiatáu i wair a blodau ailhadu a chynnig cynefinoedd i bryfed, adar ac anifeiliaid bach. Gwyliwch sut mae’r prosiect glaswelltiroedd yn gwneud gwahaniaeth.

Mae mannau eraill llawn tyfiant yn cael eu clirio i annog twf gwair a blodau gwyllt, gan gynnwys safle yn Llanfrechfa, Cwmbrân, ble mae tri mochyn, ar fenthyg gan Fferm Gymunedol Greenmeadow, yn helpu i gael gwared ar hen wreiddiau.  

Mae hen berthi hefyd yn cael eu hailosod mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol gan ddefnyddio techneg draddodiadol gosod perthi, sy’n golygu torri coesau tua’r gwaelod a’u plygu at bwynt llorweddol, ble maen nhw’n cael eu plethu i’r berth bresennol. 

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Torfaen yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2024 Nôl i’r Brig