Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025
Parc yng Nghwmbrân yw'r ardal gyhoeddus ddiweddaraf i gael ei chydnabod gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus.
Gerddi Blodau Cae Derw yn Llantarnam yw'r nawfed safle yn Nhorfaen i ennill Baner Werdd, sy'n cydnabod safonau amgylcheddol, cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, a chyfranogiad cryf gan y gymuned.
Mae'r ardaloedd sydd wedi ennill statws Baner Werdd yn cynnwys Llyn Cychod Cwmbrân, Llynnoedd y Garn, Parc Pont-y-pŵl, Coetir Cymunedol Blaen Bran, Parc Pwll Pysgod Panteg, Gardd Gymunedol Clwb Rygbi Ger-yr-efail, Gwarchodfa Natur Leol Henllys, a Gardd Furiog Llanfrechfa Grange.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’n anrhydedd ennill statws Baner Werdd bob tro, ac rwy'n falch dros ben o weld safle arall yn cael ei ychwanegu at restr Torfaen.
"Da iawn i Gymdeithas Cadwraeth Trigolion Llantarnam, sy'n fwy adnabyddus fel LLARCS, am eu hymrwymiad i gynnal eu hamgylchedd lleol a’i wella, er budd pawb. Mae ennill statws Baner Werdd yn gydnabyddiaeth haeddiannol am eu gwaith.
"Llongyfarchiadau i'r holl safleoedd cymunedol sydd wedi ennill statws Baner Werdd eto. Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu go iawn.
"Mae Gwobr y Faner Werdd yn symbol o ragoriaeth sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i greu mannau gwyrdd diogel, croesawgar a bywiog. Mae'r lleoedd hyn yn fwy na pharciau; maen nhw'n noddfa lle mae pobl yn dod i gysylltiad â byd natur, yn adeiladu cymuned, ac yn rhoi hwb i'w lles bob dydd."
Mae Gwobr y Faner Werdd yn ei thrydydd degawd erbyn hyn, ac mae’n cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli'n dda mewn dros 20 o wledydd ar draws y byd.
Ychwanegodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus: "Rydyn ni wrth ein boddau i weld 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws uchel ei fri y Faner Werdd. Mae hyn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o aelodau o staff a gwirfoddolwyr.
"Mae mannau gwyrdd o safon uchel yn chwarae rhan hanfodol yn llesiant corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael cydnabyddiaeth ymhlith y gorau yn y byd yn gyflawniad aruthrol - llongyfarchiadau!"
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar
Cadwch Gymru’n Daclus