Dros £800,000 i hybu natur drefol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025

Bydd mwy na £800,000 yn cael ei fuddsoddi mewn gwella mynediad at natur mewn ardaloedd trefol yn y fwrdeistref.

Mae Cyngor Torfaen yn un o ddim ond dau awdurdod lleol yng Nghymru i dderbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, fel rhan o raglen Trefi a Dinasoedd Natur newydd.

Bydd cyfanswm o £808,315 yn cael ei ddefnyddio i greu neu wella mannau gwyrdd a chymdogaethau, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae mynediad i fyd natur yn gyfyngedig.

Gall prosiectau gynnwys diweddaru parciau, plannu blodau gwyllt, creu parciau poced neu osod mwy o goed mewn strydoedd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Rydym am i natur ffynnu yn Nhorfaen ac i fwy o bobl brofi ei fanteision iechyd a lles niferus.

"Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i weithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid mewn ffyrdd newydd ac arloesol, fel y gallwn gyda'n gilydd gyflawni mwy a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i adferiad natur a chadw ein cymunedau'n iach."

Clymblaid o sefydliadau yw Trefi a Dinasoedd Byd Natur sy’n uno gyda’r uchelgais o alluogi miliynau mwy o bobl i brofi natur yn eu bywydau bob dydd, yn enwedig y lleoedd a'r cymunedau hynny sydd heb fynediad at fannau gwyrdd o safon ar hyn o bryd.

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn derbyn cyllid fel rhan o'r fenter, a fydd yn gweld buddsoddiad mewn cyfanswm o 40 o drefi a dinasoedd.

Dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rydym wedi buddsoddi dros £1bn mewn adfywio dros 900 o barciau trefol a mannau gwyrdd dros y 30 mlynedd diwethaf, gan helpu natur i ffynnu mewn trefi ym mhob man – a bydd y fenter gyffrous hon, gan weithio gyda phartneriaid ledled y DU, yn parhau i adeiladu ar y buddsoddiad hwn ac yn rhoi gwell mynediad i filiynau o bobl i fyd natur yn agos at adref."

Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn cydnabod yr angen brys i bobl a natur ffynnu gyda'i gilydd yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Mae'r prosiectau hyn yn gyfle cyffrous i sicrhau newid go iawn a pharhaol yn y lleoedd trefol lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae."

Dysgwch fwy am natur a chadwraeth yn Nhorfaen   

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad ar sut i reoli mannau gwyrdd cyhoeddus, fel ymylon ffyrdd a pharciau, i'w gwella ar gyfer bioamrywiaeth. Cymerwch Ran.

Am fwy o wybodaeth, ewch at https://naturetownsandcities.org.uk/cy/ 

Diwygiwyd Diwethaf: 18/07/2025 Nôl i’r Brig