Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025
Ym mis Medi, bydd Torfaen yn cynnal cymal olaf Lloyds Tour of Britain i ddynion - Ras beicio proffesiynol mwyaf Prydain.
Ddydd Sadwrn 6 Medi a dydd Sul 7 Medi, bydd digwyddiad chwaraeon byw mwyaf y DU, y gellir ei gwylio am ddim, yn croesawu beicwyr gorau'r byd yn rasio dau gymal anodd ar draws de Cymru.
Parc Pont-y-pŵl, ddydd Sadwrn 6 Medi, fydd cychwyn Cymal Pump wrth i’r ras Brydeinig ymweld â’r fwrdeistref am y tro cyntaf.
Bydd y ras yn parhau trwy Sir Fynwy ac yn gorffen ar ôl esgyn ddwywaith i ben Y Tymbl, ger Y Fenni. Mae hyn yn raddiant o 8.2 y cant ar gyfartaledd am bum cilomedr, cyn dyblu yn ôl drwy Dorfaen yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: “Mae cael cymal o ras Tour of Britain yn dechrau yma ym Mhont-y-pŵl ac yn teithio drwy Dorfaen a Sir Fynwy yn achlysur cyffrous iawn. Am gyfle gwych i arddangos harddwch Parc Pont-y-pŵl a Blaenafon hefyd.
"Dyma gyfle gwych hefyd i bobl leol ddod i wylio, a thalu teyrnged i Geraint Thomas yr arwr Cymreig a’r pencampwr Olympaidd, sydd wedi ennill y Tour de France, yn ei ras broffesiynol olaf."
I nodi ras gystadleuol olaf Geraint Thomas, bydd y cymal olaf ar ddydd Sul Medi 7, yn dechrau o Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas, yng Nghasnewydd, yn mynd heibio Felodrom Maendy – lle cychwynnodd ei yrfa gyda Chlwb Beicio Maindy Flyers.
Fel rhan o benwythnos rasio Cymru, gall beicwyr amatur hefyd fynd i'r afael â chymal olaf y ras ddydd Sadwrn 6 Medi, gan ddechrau a gorffen yn Felodrom Geraint Thomas yng Nghasnewydd – un diwrnod cyn y cystadleuwyr proffesiynol.
Bydd rhagor o fanylion ac union lwybrau’r ddau gymal o Daith Lloyds Tour of Britain yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd Jonathan Day, Rheolwr Gyfarwyddwr Digwyddiadau Beicio ym Mhrydain: “Mae ras Lloyds Tour of Britain i ddynion bob amser yn denu torf yn Ne Cymru, ac o ystyried y pedwar lleoliad gwych a dau gymal yn syrthio ar benwythnos, hyderwn y bydd yr awyrgylch yn un arbennig iawn ac yn ffordd wych o gwblhau'r ras, a choroni pencampwr 2025.”
Mae ras Lloyds Tour of Britain i ddynion yn cychwyn yn Nwyrain Suffolk ddydd Mawrth 2 Medi, gyda chymalau rhwng Woodbridge a Southwold, Suffolk yn Stowmarket, Milton Keynes a Chanolbarth Swydd Bedford, a Swydd Warwick cyn i'r ras gyrraedd Cymru.
Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am Chwaraeon: "Rydym yn hynod gyffrous i groesawu ras Tour of Britain i ddynion yn ôl i Gymru unwaith eto, digwyddiad yr ydym wedi bod yn falch o'i gefnogi dros nifer o flynyddoedd."
"Mae'r ras wedi dod o hyd i gartref llwyddiannus yng Nghymru, a phob tro y mae'n dychwelyd mae'n gyfle gwych i arddangos ein dinasoedd, trefi, cymunedau a thirweddau i gynulleidfa ryngwladol, yn ogystal â denu athletwyr o bob cwr o'r byd."
Mae mwy o wybodaeth am ras Lloyds Tour of Britain ‘Ride the Route’ ar gael yma.