Wedi ei bostio ar Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025
Gwir y gwair, mae gadael i wair dyfu’n helpu'r blaned. Ers 2020, mae’r cyngor wedi lleihau torri gwair mewn dros 100 o fannau glaswelltir rhwng Ebrill a Medi pob blwyddyn.
Mae’r dull yma sy’n garedig tuag at fywyd gwyllt yn darparu cynefinoedd i anifeiliaid a phryfed a mwy o beillio yn ystod yr haf a’r hydref. Mae’r planhigion hefyd yn datblygu gwreiddiau hirach sy’n rhoi aer i’r pridd ac yn cynyddu gallu’r tir i ddraenio dŵr, gan helpu i leddfu risg o lifogydd.
Mae’r cyngor am leihau amlder torri gwair mewn mwy o ardaloedd – ar wahân i wrth heolydd neu balmentydd, a allai effeithio ar ddefnyddwyr ffyrdd, a chaeau chwaraeon a ddefnyddir at ddibenion difyrrwch.
Os hoffech chi wneud sylw am ardal newydd a allai gael ei gadael i dyfu dros fisoedd yr haf, cwblhewch arolwg byr ar wefan Cymryd Rhan Torfaen erbyn Dydd Gwener, Awst 15. Gallwch hefyd wneud sylwadau ar fap rhyngweithiol sy’n dangos y safleoedd cyfredol ac arfaethedig.
Ers cyflwyno’r cynllun bum mlynedd yn ôl, mae ffordd Cyngor Torfaen o dorri gwair mewn ffordd sy’n garedig i natur wedi arwain at weld mwy o bryfed, blodau gwyllt a bioamrywiaeth gyffredinol yn ein glaswelltiroedd. Nid ymdrech i arbed arian yw hyn, gan fod angen torri a chasglu gwair ar ddiwedd yr haf – ffordd sefydledig o gynyddu bioamrywiaeth dros gyfnod o amser, ac felly dyma’r rheswm dros gynyddu nifer y safleoedd.
Diolch i’r llwyddiant hyn, rydym yn nawr yn gofyn i drigolion a busnesau yn Nhorfaen roi eu barn am gynlluniau i ehangu’r dull yma o dorri gwair.
Bydd eich barn yn helpu i lywio’r ffordd y mae’r cyngor yn rheoli mwy o’i fannau gwyrdd i gefnogi bioamrywiaeth, un o nifer o ffyrdd y mae’r cyngor yn gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd.
Mae Cyngor Torfaen wedi bod ar flaen y gad o ran defnyddio dull o reoli glaswelltiroedd sy’n garedig tuag at natur ledled Cymru. Mae’r broses o dorri gwair mewn ffordd ddethol yn dilyn cyfarwyddyd a deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, gan gydbwyso anghenion pobl gydag anghenion yr amgylchedd lleol.
Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae wedi bod yn wych gweld cynnydd mewn blodau gwyllt, pryfed a rhywogaethau eraill er i ni fod yn torri gwair mewn ffordd fwy ystyriol. Mae’r dull yma’n adlewyrchu polisi a chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar dystiolaeth sefydledig, ac mae hefyd yn galluogi’r Cyngor i ddangos ei fod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol.
“Hyd yn oed mewn mannau bach, gall sut a phryd rydym yn torri gwair wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt a lles.”
Mae’r cyngor wedi cadarnhau y bydd ardaloedd wrth ymyl heolydd a phalmentydd yn dal i gael eu torri er mwyn sicrhau diogelwch a gwelededd. Hefyd, fel rhan o Ddull Cymunedau ehangach y cyngor, mae darnau helaeth o’r fwrdeistref yn cael eu rheoli at ddibenion chwaraeon a hamdden, a does dim cynnig i newid hyn.
Os hoffech wybod mwy, gallwch fynd i sesiwn galw heibio:
- Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon, dydd Mawrth 22 Gorffennaf (1pm-4.30pm)
- Marchnad Pont-y-pŵl, Dydd Mercher, 23 Gorffennaf (1pm-4.30pm)
- Llyfrgell Cwmbrân, Dydd Gwener, 25 Gorffennaf (1pm-4.30pm)
Neu, ewch i wefan Cymryd Rhan Torfaen i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner nos ar ddydd Gwener, 15 Awst