Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 2 Medi 2025

Photo credit: SWpix.com
Bydd pob llygad ar Barc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn yma, 6 Medi, wrth iddo gynnal dechrau Cymal 5 ras Tour of Britain Lloyds i Ddynion – y tro cyntaf i ras feicio broffesiynol fwyaf Prydain ddod i’r dref.
Bydd rhai o feicwyr gorau'r byd, gan gynnwys pencampwr presennol y Gêmau Olympaidd, Remco Evenepoel a chyn-enillydd Tour of Britain i Ddynion, Julian Alaphilippe, ymhlith 114 o feicwyr elit a fydd yn dechrau’r ras tu allan i Ganolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl i daclo cymal mwyaf heriol a mynyddig y ras.
Mae'r arwr o Gymru a chyn-enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, hefyd yn rasio yn ei ras Tour of Britain olaf a'i ras broffesiynol olaf, gan gloi gyrfa hynod o nodedig sydd wedi rhychwantu 19 mlynedd, yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Mae'r ras yn cychwyn am 11:30am o Barc Pont-y-pŵl, ac yn teithio trwy Famheilad ar gyfer lap o amgylch Sir Fynwy.
Yna, bydd beicwyr yn dringo’r Tymbl am y tro cyntaf cyn rasio trwy Flaenafon ac yn ôl i Bont-y-pŵl rhwng tua 1.30pm a 2pm, gan gynnig cyfle prin i wylwyr i gael cipolwg ar y beicwyr sawl gwaith.
Ond nid ar y heolydd yn unig fydd y cyffro, o 9am bydd pentref gwylwyr Parc Pont-y-pŵl yn fwrlwm o weithgarwch ac adloniant am ddim i bobl o bob oedran, gan gynnwys:
- ‘Changing Gearz’ Torfaen – trwsio beiciau, gwerthu beiciau wedi'u hadnewyddu, a recriwtio gwirfoddolwyr.
- Fusion Extreme - gweithdai BMX ar gyrtiau tenis y Parc rhwng 9:15am a 12:30pm, gan roi cyfle i feicwyr ifanc ddysgu triciau a sgiliau gan hyfforddwyr profiadol.
- Timau Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen - yn arwain calistheneg a sesiynau hyfforddi yn y Parc a’r bandstand, i gael pob un i symud.
- Ar y darn o dir a elwir yn ‘Cabbage Patch’, gyferbyn â'r parc chwarae, gall rhai bach roi tro ar feiciau cydbwysedd.
- Beicio Cymru - taith gymunedol o'r llinell gychwyn, gan annog beicio cynhwysol i bawb.
- Gwasanaeth Hamdden Halo – her beicio antur, gyda gwobrau i'r enillwyr.
- Bydd amrywiaeth o werthwyr bwyd yno hefyd, gan gynnwys Spudbox, Madoc Coffee, O'Connell's Bakery a Chaffi Epicure Gwasanaeth Hamdden Halo.
Anogir ymwelwyr i gyrraedd yn gynnar i fwynhau'r rhaglen lawn a sicrhau lle da i wylio.
Bydd y meysydd parcio yn y Ganolfan Byw Egnïol a'r Hen Felin yn cael eu defnyddio ar gyfer cystadleuwyr a swyddogion, ac felly anogir gwylwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol, a bydd lleoedd parcio ar gael mewn meysydd parcio cyfagos o amgylch y dref.
Bydd heolydd yn cael eu cau wrth i’r beicwyr gychwyn trwy gatiau parc Pont-y-moel am 11:30am. I ddilyn, bydd yr heolydd yn cael eu cau’n llawn dros dro o Flaenafon i Bont-y-pŵl rhwng 1:30pm a 2:30pm.
Meddai Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Mae hon yn garreg filltir i Bont-y-pŵl a Thorfaen, ac yn gyfle i ddathlu balchder mewn beicio a balchder cymunedol a lleol. Efallai eich bod chi’n feiciwr profiadol neu'n wyliwr chwilfrydig. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, gobeithiwn o waelod calon y bydd yr olygfa anhygoel hon yn dod â naws yr ŵyl ac atgofion bythgofiadwy i chi."
I gael y manylion llawn am drefniadau cau’r ffyrdd, mapiau a chyngor am deithio, ewch i wefan Visit Torfaen.