Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Medi 2025
Mae chwe menyw o Dorfaen yn paratoi i ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref, gan nodi carreg filltir bwysig yn eu taith iechyd a ffitrwydd ers cwblhau rhagleniechyd y cyngor, Os Ei Di Af I.
Cafodd y grŵp, a gymerodd ran yn ddiweddar yn ras 10K Casnewydd fel rhan o'r Clwb 100 i ferched yn unig, gynnig lleoedd am ddim yn Hanner Marathon Caerdydd gan Run4Wales, ar ôl cwblhau ras ymarfer ym Mae Caerdydd ym mis Gorffennaf.
Mae'r Clwb 100 yn fenter gan Run4Wales sy'n rhoi 100 o leoedd rasio am ddim i 100 o bobl ysbrydoledig, sy'n ceisio annog ac ysbrydoli pobl eraill i ddechrau rhedeg.
Dywedodd Louise Worrall, 36, sy'n fam i 2 o Gwmbrân, a ymunodd â'r rhaglen ar ôl cael trafferth gyda gorbryder, bwyta cysur a bod yn ofalwr di-dâl:
"Cyn y rhaglen hon, roeddwn i'n cymeradwyo rhedwyr eraill yn unig gan nad oeddwn erioed yn credu fy mod i'n gallu rhedeg. Nawr rwy'n rhedeg 10K am hwyl ac yn ymarfer ar gyfer hanner marathon diolch i Os EI Di Af I.
"Mae'r cymorth cymheiriaid a'r sesiynau strwythuredig wedi fy helpu i ailddarganfod fy nghryfder a fy hunanhyder. Mae wir wedi gwella fy mywyd yn gymdeithasol, yn gorfforol ac yn feddyliol."
Mae rhaglen Os Ei DI Af I, sy'n cael ei rhedeg gan dîm iechyd, chwaraeon a ffitrwydd Cyngor Torfaen, yn cefnogi menywod o bob oed i adfer eu hiechyd drwy gwrs 10 wythnos o sesiynau grŵp, ymarfer corff a champfa, cyngor maeth, a mentora cymheiriaid.
Ers cwblhau'r rhaglen, mae'r merched wedi mynd ymlaen i orffen Couch to 5K, mynychu rasys parciau wythnosol, a chwblhau sawl 10K gan gynnwys 10K Mic Morris Torfaen, 10k Sorbrook Tough, 10k Caerdydd a 10k Bae Abertawe.
Maen nhw hefyd wedi ymuno â chlybiau rhedeg lleol fel Pont-y-pŵl District Runners, Fairwater Runners, ac Easy Pacers, wedi lleihau meintiau crysau-t, ac erbyn hyn yn gwisgo eu dillad rhedeg yn falch.
Ymunodd Laura Robertson, 38, sy'n fam i dri o’r Dafarn Newydd, i roi blaenoriaeth i’w lles meddyliol a chorfforol. Dywedodd hi:
"Mae cymryd rhan wedi rhoi fy hyder yn ôl i mi! Ers hynny rydw i wedi ymuno â'm clwb rhedeg lleol ac rydw i bellach yn canolbwyntio'n llwyr ar ymarfer i gwblhau fy hanner marathon cyntaf erioed."
Ychwanegodd Jayde Herbert, 38, o Gwmbrân, sydd bellach yn rhedeg tair gwaith yr wythnos gydag Easy Pacers ac yn cwblhau rasys parc gyda menywod y gwnaeth hi gyfarfod â nhw â hi trwy'r rhaglen:
"Rydw i wedi colli dros 2 stôn dros gyfnod o 11 mis, ond yn bwysicach fyth, rydw i wedi ennill cymuned. Mae'r her ddiweddaraf hon yn teimlo fel y dathliad eithaf o ba mor bell rydyn ni wedi dod."
Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 5 Hydref, a bydd y merched yn cychwyn o Gastell Caerdydd.
Dywedodd Megan Parker, arweinydd Os Ei Di Af I, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r menywod ar y diwrnod:
"Mae'n rhyfeddol, llai na blwyddyn yn ôl, roedd y menywod hyn yn segur ac yn cael trafferth gyda'u hiechyd corfforol a meddyliol. Nawr maen nhw'n a rhedeg yn rhwydd. Rydw i mor falch o'u cefnogi."
Bydd y rhaglen Os Ei Di Af I nesaf yn cael ei chynnal ddydd Llun 29 Medi yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl.
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â megan.parker@torfaen.gov.uk