Wedi ei bostio ar Dydd Iau 28 Awst 2025
Dewch â’ch mapiau i gael blas ar Lwybr Bwyd Torfaen am y tro cyntaf erioed.
Gan ddechrau ddydd Llun Gŵyl y Banc, bydd busnesau lleol, ffermwyr a grwpiau cymunedol yn cynnal cyfres o weithgareddau a digwyddiadau i hyrwyddo cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol.
O Wersylloedd Selsig a Byrgyrs ar Fferm Tŷ Poeth i Bicnic Tedi Bêrs yn The Cando Project, bydd rhywbeth i bawb.
Gallwch weld beth sydd ar gael drwy godi Pasbort Arloeswr Bwyd o Lyfrgelloedd Torfaen neu leoliadau eraill sy'n cymryd rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Mae'r dathliad hwn yn ffordd wych o gysylltu â'n cymunedau, cefnogi cynhyrchwyr lleol, a gwneud bwyd da’n hygyrch i bawb. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan, cael hwyl, a darganfod y diwylliant bwyd anhygoel sydd gennym yma yn Nhorfaen."
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r Tîm Gwydnwch Bwyd am eu holl waith caled wrth drefnu’r amserlen weithgareddau wych hon at ei gilydd – mae am fod yn llawer o hwyl.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi ein Hamcanion Llesiant trwy hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw i wella lles meddyliol a chorfforol, a thrwy ddathlu ein diwylliant a'n treftadaeth leol i wneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag ef."
Meddai Holly Ivany, Caffi Llantarnam Grange: "Rydyn ni mor falch a mor freintiedig i fod yn rhan o lwybr Bwyd Torfaen.
"Rydyn ni’n gyffrous i ddod i gyswllt â'n cymuned, i greu atgofion, cael hwyl a dangos yr holl brydau hynod o gynaliadwy y gellir eu creu gyda chynhwysion lleol.
"Trwy weithio gyda'n gilydd rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd a'n hiechyd"
Cadwch lygad barcud am y Triawd Arloesol Llysieuol Torfaen, masgotiaid yr ymgyrch, a fydd yn ymddangos ar draws y fwrdeistref i ledaenu'r gair a hyrwyddo digwyddiadau.
Gallwch hefyd ddilyn tudalen Facebook Food4Growth.
Casglwch stampiau ym mhob digwyddiad rydych chi'n mynd iddo i gael cyfle am wobrwyon fel plushies bach, llyfrnodau ffynci, nwyddau garddio fel ffyn hadau. Hefyd, mae cyfle i ennill diwrnod allan i'r teulu ar Fferm Gymunedol Greenmeadow ar ei newydd wedd, sy'n agor ar ddiwrnod olaf y llwybr.
Cadwch lygad barcud am y Triawd Arloesol Llysieuol Torfaen, masgotiaid yr ymgyrch, a fydd yn ymddangos ar draws y fwrdeistref i ledaenu'r gair a hyrwyddo digwyddiadau.
Daw Llwybrau Bwyd Torfaen atoch chi drwy'r Rhaglen Gwydnwch Bwyd, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.