Gweinidog Cymru yn ymweld â Blaenafon i lansio siarter budd-daliadau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
ministers visit

Ddydd Llun, fe wnaeth Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, a Sian Gwenllian, Aelod Dynodedig Arweiniol y Cytundeb Cydweithredu, ymweld â Chanolfan Adnoddau Blaenafon i lansio Siarter Budd-daliadau Cymru.

Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn set o egwyddorion sylfaenol a gafodd eu mabwysiadu gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’n cadarnhau eu hymrwymiad ar y cyd i wella gallu pobl ledled Cymru i gael cymorth ariannol.

Mae egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru, fel Prydau Ysgol am Ddim, Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r Grant Hanfodion Ysgol, yn sicrhau system dosturiol a hygyrch i helpu pobl i wneud y mwyaf o’u hincwm a mynd i’r afael â thlodi plant.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Ms Hutt â Olena Avramchuk, un o drigolion Blaenafon, sydd wedi derbyn llawer o gymorth gan y cyngor ers symud i Gymru.

Meddai Olena: "Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r caredigrwydd a ddangoswyd gan bawb yma. Mae cyngor Torfaen wedi bod o gymorth mawr, gan ein cynorthwyo i gael mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau ehangach. Rwy'n cael fy nghyflogi yn yr ysgol leol, sy'n rhoi rhywfaint o incwm i mi a chyfle i wella fy Saesneg. Rwyf hefyd yn cael swm sy’n ychwanegol i’r credyd cynhwysol, sef taliad i helpu gyda’n costau byw a’n taliadau rhent.

"Mae fy merch yn derbyn prydau ysgol am ddim a grant hanfodion addysg, sydd wedi fy ngalluogi i brynu ei gwisg ysgol ac eitemau eraill sy’n hanfodol. Mae’r cymorth hwn wedi bod yn hollbwysig i ni, gan ein bod ar incwm isel a chyfyngedig iawn i’r cynilion sydd gennym."

Mae Canolfan Adnoddau Blaenafon yn un o lawer o hybiau yn y fwrdeistref sy’n rhoi cymorth uniongyrchol a chynnig gwasanaeth atgyfeirio i bobl sy’n wynebu trafferthion yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, Platfform ac Adeiladu Cymunedau Cryf yn rhoi cyngor a chymorth i helpu’r bobl sydd â’r angen mwyaf i dalu am eu hynni, bwyd ac eitemau hanfodol, yn ogystal â sicrhau eu bod yn hawlio popeth y gallent fod â hawl i’w derbyn.

Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn un o'r ymrwymiadau yn y Strategaeth Tlodi Plant newydd a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon. Ei nod yw mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol byw mewn tlodi a gwella cyfleoedd i blant sy’n byw mewn tlodi. 

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: “Mae mynd i’r afael â thlodi plant a gweithio gydag eraill i gyflawni hyn wrth wraidd popeth a wnawn fel llywodraeth ar bob lefel yng Nghymru.

“Mae Cwtch Mawr a Siarter Budd-daliadau Cymru yn enghreifftiau gwych o’r gweithio mewn partneriaeth sy’n mynd rhagddo, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.

“Dim ond drwy weithredu trawslywodraethol cryf a chydweithio ar lefelau rhanbarthol a lleol, yn ogystal â helpu pobl i wneud y gorau o'u hincwm, a dod o hyd i lwybrau allan o dlodi, y gallwn ni gyda'n gilydd sicrhau hawliau holl blant a phobl ifanc Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen a llefarydd ar ran Cyllid CLlLC: “Nawr yn fwy nag erioed, wrth i’r argyfwng costau byw barhau i ddal gafael yn ein cymunedau, mae’n hollbwysig bod trigolion yn gallu cael hyd i bob cymorth cymwys a’i hawlio. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, mae’r Siarter hon yn rhan o’r broses barhaus i gynllunio a chyflwyno system fudd-daliadau gynhwysol sy’n gweithio i’n trigolion.

“Rydym yn annog ein holl drigolion i wirio pa gymorth y gallent fod â hawl i’w dderbyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor.”

Mae Siarter Budd-daliadau Cymru hefyd yn gysylltiedig â'r Cytundeb Cydweithio – ymrwymiad i ‘gefnogi datganoli gweinyddiaeth lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer cyflawni hyn.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/01/2024 Nôl i’r Brig