Y Cyngor yn ymrwymo i gefnogi digwyddiad LHDTC + Pride

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023
Torfaen Pride

Ddoe, pleidleisiodd aelodau'r cyngor o blaid cynnig i gefnogi mentrau Pride lleol sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, derbyn a dathlu gwaith pobl LHDTC+.

Cynhelir cannoedd o ddigwyddiadau Pride o gwmpas y DU pob blwyddyn i ddathlu’r gymuned LHDTQ+.

Mae trefniadau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd i gynnal Pride Torfaen am y tro cyntaf erioed ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mewn ymateb i'r cynnig, fe wnaeth y Cynghorydd Peter Jones, Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sicrhau i’r rheini oedd yn bresennol, bod swyddogion y Cyngor eisoes yn cynnal trafodaethau gyda Club F.O.D, sef yr elusen sy’n cynnig y digwyddiad, i gynnig cyngor ac arweiniad.

Gan annerch cyfarfod y Cyngor, fe wnaeth y Cynghorydd Jones dynnu sylw at ba mor berthnasol yw Pride a nifer y digwyddiadau Pride sy’n cael eu cynnal erbyn hyn yn y bwrdeistrefi cyfagos, gan ddweud: “Rwy'n pryderu am y cynnydd yn lefelau’r troseddau casineb yn erbyn pobl LHDT yr ydym wedi'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf a'r holl siarad cynhennus a gwenwynig ar lein ynghylch hunaniaeth rhyw. Gwelaf y fath ddigwyddiadau newydd fel arwydd bod y gymuned  LHDTC+ yng Ngwent o’r farn bod eu hawliau dan fygythiad.

“Mae'r digwyddiadau hyn hefyd yn ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol, ac rwyf hefyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cenhadaeth Club F.O.D i leihau unigedd cymdeithasol yn y gymuned”

Yn dilyn y cyfarfod, diolchodd tudalen Facebook Pride Torfaen i'r Cynghorydd Davies am gyflwyno’r cynnig, gan ychwanegu “Gall gwelededd achub bywydau”.

Mae Cyngor Torfaen yn aelod o rwydwaith Cynghorau Balch, partneriaeth o Gynghorau yn y De sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi materion LHDTQ+ a hyrwyddo cynhwysiant LHDTQ+. 

I gael gwybod mwy am Pride Torfaen, gan gynnwys cyfleoedd i noddi neu wirfoddoli, ewch i: https://www.torfaenpride.co.uk/

Diwygiwyd Diwethaf: 19/07/2023 Nôl i’r Brig