Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 25 Ionawr 2023
Bydd Cynllun Tanwydd y Gaeaf 2022/23 Llywodraeth Cymru yn cau ar ddiwedd Chwefror 2023.
Mae'r cynllun yn caniatáu i aelwydydd cymwys hawlio taliad un tro gwerth £200 i roi cymorth tuag at dalu biliau tanwydd.
Anogir trigolion nad ydynt eisoes wedi gwneud cais, i gyflwyno eu ceisiadau cyn 5pm ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023.
Agorodd y cynllun ar 26 Medi 2022 ac mae'n bosib y bydd rhai cartrefi wedi derbyn y taliad yn awtomatig, heb gyflwyno cais. Byddai'r taliadau wedi cael eu talu i gyfrifon banc rhwng 27 Medi a 3 Hydref 2022.
Telir y swm yn ychwanegol i’r ad-daliad Bil Ynni gwerth £400 gan Lywodraeth Cymru a’r Taliad Tanwydd y Gaeaf sy’n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr.
Mi fydd yn daliad un tro fesul cartref, waeth a oes gennych fesurydd rhagdalu ai beidio, p’un ai ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol neu’n derbyn biliau chwarterol, a gellir ei hawlio p’un ai ydych yn defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi ar y grid.
Bydd Cyngor Torfaen yn anelu i wneud yr holl daliadau o fewn 30 diwrnod o dderbyn cais dilys.