Annog teuluoedd i hawlio Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 31 Awst 2023
WAL SPEC 02 23 04

Mae’r tymor ysgol newydd ar ein gwarthaf ac mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa teuluoedd i agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth heddiw, er mwyn arbed hyd at £2,000 y plentyn ar eu biliau gofal plant blynyddol. 

Gall teuluoedd ddefnyddio’u cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i dalu am unrhyw ofal plant sydd wedi’i gymeradwyo, gan gynnwys clybiau gwyliau, clybiau brecwast ac ar-ôl-ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd.    

Mae’r cynllun yn rhoi hyd at £2,000 y flwyddyn i deuluoedd sy’n gweithio sydd â phlant sy’n 11 oed neu’n iau, neu hyd at £4,000 y flwyddyn i deuluoedd sy’n gweithio sydd â phlentyn anabl sy’n 16 oed neu’n iau. 

Am bob £8 a delir i mewn i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae teuluoedd yn cael ychwanegiad awtomatig o £2 gan y Llywodraeth. Gall teuluoedd arbed hyd at £500 bob 3 mis am bob plentyn, neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl. 

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cwsmeriaid CThEF: “Mae dychwelyd i’r ysgol a threfnu gofal plant ar gyfer y tymor sydd ar droed yn gallu bod yn gostus i deuluoedd sy’n gweithio. Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn cynnig cymorth ariannol er mwyn i deuluoedd arbed ar gost gofal plant. Chwiliwch am “Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth” ar GOV.UK a chofrestrwch ar-lein heddiw.” 

Mae’n hawdd agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar-lein a gallwch wneud hynny mewn tua 20 munud. Gallwch roi arian yn y cyfrif unrhyw bryd, 365 niwrnod y flwyddyn, i’w ddefnyddio ar unwaith, neu ei adael yn y cyfrif a’i ddefnyddio yn ôl yr angen. Gallwch dynnu unrhyw arian sy’n weddill o’r cyfrif ar unrhyw adeg.   

Ewch i GOV.UK i gofrestru a dechrau arbed heddiw.

Mae’r llywodraeth yn cynnig cymorth i aelwydydd hefyd. Chwiliwch ar GOV.UK i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael gyda chostau byw, gan gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant.   

Diwygiwyd Diwethaf: 31/08/2023 Nôl i’r Brig