Trigolion yn cael cymorth gyda chostau ynni.

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 26 Hydref 2023
20231018_151431

Mae cannoedd o bobl wedi cael cymorth am ddim gydag ynni, gan gynnwys cyngor ac anrhegion arbed ynni fel bylbiau LED ac offer adlewyrchu gwers o wresogyddion.

Trefnwyd y digwyddiadau galw heibio gan dîm cynhwysiant ariannol Creu Cymunedau Cydnerth Cyngor Torfaen, sy’n rhoi amrywiaeth o gefnogaeth i bobl sy’n cael trafferth gyda chostau byw.  

Cynhaliwyd cyfanswm o wyth digwyddiad yn ystod mis Medi a mis Hydref mewn gwahanol leoliadau cymunedol ledled y fwrdeistref.

Un o’r bobl sydd wedi elwa o’r gwasanaeth yw Cyra Gould, mam ifanc o Bont-y-pŵl, dywedodd: "Mae’r prosiect wedi bod yn wych i’n teulu ni! Es i’r digwyddiad yn llawn straen a phryder am ddod trwy’r mis yn ariannol ac fe adawais i gan deimlo bod pwysau anferth wedi codi oddi arnaf!

“Roedd y fenyw ifanc yn y digwyddiad mor gefnogol.  Rwy’n teimlo’n fwy hyderus ac yn teimlo fy mod yn rheoli fy arian nawr."

Mae’r gwasanaeth cynhwysiant ariannol yn rhan o’r rhaglen Creu Cymunedau Cydnerth ehangach, sy’n ceisio hwyluso ymyrraeth gynnar, rhoi cefnogaeth a chreu cydnerthedd mewn teuluoedd, plant ac oedolion yn Nhorfaen.

Dros y chwe mis diwethaf, mae’r prosiect wedi helpu dros 300 o bobl i wella eu lles ariannol ac ansawdd eu bywydau.

Yn ogystal â helpu’r rheiny sydd angen cymorth mewn argyfwng, mae’r gwasanaeth yn cynnig:

  • Cyngor ar gyllidebu
  • Nwyddau gwyn ar frys fel oergelloedd a pheiriannau golchi
  • Mynediad at gredyd fforddiadwy a chynlluniau cynilo
  • Addysg ariannol a hyfforddiant sgiliau digidol

Mae’n gweithio’n agos â sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, undebau credyd a chymdeithasau tai i roi cymorth ehangach ac wedi ei addasu i drigolion.

I gael cefnogaeth gan y gwasanaeth cynhwysiant ariannol, cysylltwch â’r tîm trwy 07951822017 neu drwy e-bost at julian.allen@torfaen.gov.uk

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: "Rydym wrth ein bodd gydag effaith gadarnhaol y gwasanaeth yma ar fywydau trigolion sydd mewn angen. Mae cynhwysiant ariannol yn golygu nid dim ond cael mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau, ond hefyd bod â’r sgiliau a’r hyder i’w defnyddio’n effeithiol.

Bwriad y prosiect yw grymuso pobl i wneud penderfyniadau ariannol gwybodus a chyrraedd eu nodau. Rydym yn ddiolchgar i’r rheiny sy’n ein hariannu a’u partneriaid am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad."

Ariannwyd y digwyddiadau ynni gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU – piler canolog agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU sy’n rhoi £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025.

Mae’r gronfa’n ceisio gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.  Mwy o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Cyffredin.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/10/2023 Nôl i’r Brig