Prosiect yn helpu dyn ifanc i gyflawni breuddwydion rygbi

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Chwefror 2024
Harley - positive futures

Mae prosiect sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n cael trafferth ymdopi gydag addysg brif ffrwd wedi helpu un chwaraewr rygbi addawol i daclo’r heriau yr oedd yn eu hwynebu. 

Roedd gan Harley Ryan, 17, o Gwmbrân, broblemau ymddygiad a arweiniodd at ei wahardd ym mlwyddyn 10 ac atgyfeiriad i’r Uned Cyfeirio Disgyblion.

Tra roedd yno, cafodd ei gyfeirio at raglen Dyfodol Cadarnhaol a chafodd amserlen wedi ei haddasu a oedd yn gweddu’n well i’w ddiddordebau, gan gynnwys rhaglen cryfhau a chyflyru wedi ei chreu i wella’i ffitrwydd a’i sgiliau rygbi.

Mae e nawr yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig, BTEC Chwaraeon a chymwysterau mathemateg yn Ysgol Uwchradd Casnewydd, ac mae wedi ei ddewis yng ngharfan dan 18 Dreigiau Casnewydd.

Dywedodd Harley: “Doeddwn i ddim yn hoffi’r gampfa i ddechrau, ond fe newidiodd fy safbwynt a rhoddodd mwy o ddealltwriaeth i fi o sut i ymarfer a pherfformio’r technegau cywir. Roedd yr hyfforddwyr yn Nyfodol Cadarnhaol yn garedig iawn a datblygais i berthynas dda gyda nhw.”

Mae Harley, 17, nawr wedi troi ei olygon at chwarae i dimau Cymru dan 19 a dan 20 ac mae ganddo ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr i bobl ifanc o gefndiroedd tebyg i’w gefndir ef.

Ychwanegodd Harley: “Mae Dyfodol Cadarnhaol wedi fy helpu llawer gyda fy hyder ac ysgogiad. Mae’r prosiect wedi rhoi dewis cadarnhaol i fi yn lle camddefnydd sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Rwy’n mwynhau chwarae rygbi mewn stadia mawr yn erbyn timau da eraill.  Fy mreuddwyd yw cynrychioli Cymru ac ysbrydoli eraill.”

Cynllun yw Dyfodol Cadarnhaol a ddechreuodd ym Mai 2016, ac mae wedi ei ariannu’n bennaf gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros Went, ochr yn ochr â phartneriaid fel y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc, Chwaraeon Cymru, a gwasanaethau mewn awdurdodau lleol.

Amcan y rhaglen yw creu cymunedau mwy diogel a chynhwysol trwy gynnig dewisiadau yn lle camddefnydd sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy chwaraeon.

Mae hefyd yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol, personol a chymdeithasol pobl ifanc trwy weithio gyda phartneriaid ac asiantaethau.

Gall unrhyw berson ifanc 9 - 19 oed sy’n byw yn Nhorfaen ddefnyddio’r gwasanaeth yn ogystal â’r rheiny sy’n cael eu cyfeirio gan nifer o asiantaethau, gan gynnwys y rheiny sy’n cael eu hystyried yn rhai ‘mewn perygl’.

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: “Rydym yn falch iawn o Harley a’i orchestion yn ddiweddar,  Mae e wedi dangos gwydnwch a phenderfyniad i oresgyn ei anawsterau a dilyn ei frwdfrydedd am rygbi.Mae e’n enghraifft wych o sut all Dyfodol Cadarnhaol wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc sy’n wynebu heriau a rhwystrau.” 

Am ragor o wybodaeth am Ddyfodol Cadarnhaol, ewch i wefan Cyngor Torfaen neu dilynwch ar Facebook.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/02/2024 Nôl i’r Brig