Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024
Heddiw, cymeradwyodd cynghorwyr gynlluniau i atgyweirio darn o’r A472 ble mae’n croesi Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Mae angen atgyweiriadau sylweddol i’r bont i’w chryfhau a sicrhau ei bod yn parhau’n ddiogel i yrwyr a thrigolion sy’n defnyddio’r gamlas.
Amcangyfrifir y bydd y gwaith yn cymryd hyd at 16 wythnos a bydd gofyn am waith ar y ffordd osgoi ble mae’n croesi basn y gamlas ym Mhont-y-moel.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Bydd swyddogion yn gweithio’n galed gyda’r contractwyr i sicrhau bod atgyweiriadau i’r bont, a gwaith cysylltiol i’r heol, yn cael eu gwneud gyda’r lleiaf posibl o amhariad ac anghyfleustra i’r cyhoedd a chymunedau lleol fel ei gilydd.”
Bydd manylion llawn ar gael wedi i’r contractwyr llwyddiannus gwblhau’r trefniadau.
Darllenwch yr adroddiad llawn i’r cyngor