Cynlluniau statws 'Cymuned Sy'n Dda i Bobl Hŷn'

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
AGE FRIENDLY SOCIAL TILES (1) Welsh

Mae cynlluniau'n mynd rhagddynt i Dorfaen gael ei henwi'n Gymuned Sy'n Dda i Bobl Hŷn gan Sefydliad Iechyd y Byd. 

Y nod yw sicrhau bod cymunedau, gwasanaethau a sefydliadau lleol yn gweithio gyda phobl hŷn i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i heneiddio'n dda.

Er mwyn helpu i ddeall yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud yn dda yn Nhorfaen a beth arall sydd angen ei wneud, lansiwyd ymgynghoriad ar gyfer unrhyw un sy'n 50 oed a hŷn. 

Mae'r ymgynghoriad wedi'i rannu'n bedwar arolwg ar wahân, gan ganolbwyntio ar feysydd a nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd fel rhai sy'n hanfodol i sicrhau lles pobl hŷn:

* Mannau awyr agored, adeiladau a thrafnidiaeth

* Tai a gofal iechyd

* Cymuned, parch a chynhwysiant

* Cyfathrebu, gwybodaeth a chyflogaeth

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai,: "Mae bron i 42 y cant o'r boblogaeth yn Nhorfaen dros 50 oed a bron i 10 y cant dros 75 oed.

"Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn eu 50au yn cael eu hystyried yn hen, efallai bod gennych syniad o sut y gallwn helpu pobl sy'n heneiddio'n dda yn Nhorfaen trwy brofiadau eich rhieni.

"Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu defnyddio i'n helpu i ddeall pa rai o'r meysydd arolwg yr hoffech i ni ganolbwyntio arnynt, a sicrhau bod Cynllun Torfaen Sy’n Dda i Bobl Hŷn yn cael ei arwain gan ein cymunedau ac yn arwain at newid cadarnhaol sydd o fudd i genedlaethau hŷn heddiw ac yn y dyfodol." 

Mae'r arolygon yn fyw tan 1 Gorffennaf 2024, a gallwch gwblhau un neu ddau, neu'r pedwar.

Cymryd rhan yn yr Ymgynghoriad Sy’n Ystyriol o Oedran ar-lein

Yn ystod y misoedd nesaf, i’r rheini mae'n well ganddynt fynychu sesiynau wyneb yn wyneb i siarad trwy'r arolygon mi fyddwn yn eich cymunedau. Y mis hwn fe welwch ni yn:

* Dydd Mawrth 23 Ebrill (4pm-6pm) Canolfan Addysg Oedolion Torfaen, NP4 8AT

* Dydd Mercher 24 Ebrill (5pm-7pm) Stadiwm Cwmbrân, NP44 3YS

* Dydd Iau 25 Ebrill (10am-2pm) yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, NP4 9AS

Gallwch hefyd lenwi copïau papur yng Nghanolfan Treftadaeth Blaenafon; Canolfan Adnoddau Blaenafon; Neuadd y Gweithwyr Blaenafon; Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl; Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl; Llyfrgell Pont-y-pŵl ac Age Connects, ym Mhont-y-pŵl; Llyfrgell Cwmbrân; Stadiwm Cwmbrân a Neuadd Bentref Ponthir.

Gall grwpiau cymunedol hefyd ofyn am arolygon papur drwy gysylltu â zoe.gibbs@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2024 Nôl i’r Brig