Wedi ei bostio ar Dydd Llun 22 Ebrill 2024
Yn dilyn trafodaethau rhwng Cyngor Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â phenodi Cyd-Brif Weithredwr gyda chyfrifoldeb dros Dorfaen a Blaenau Gwent.
Mae’r cynghorau wedi cynnal trafodaethau i archwilio’r cyfleoedd a allai godi wrth weithio’n agosach gyda’i gilydd, sydd bellach yn cynnwys cynnig i benodi un Prif Weithredwr i weithio ar draws y ddau gyngor, am gyfnod diffiniedig i ddechrau, gyda mandad i:
- geisio arbedion effeithlonrwydd drwy wneud y gorau o’r adnoddau a all weithio ar raddfa fawr;
- cynyddu arloesi a chreadigrwydd;
- a rhannu arfer gorau.
Mae Damien McCann, Prif Swyddog Gweithredol presennol Blaenau Gwent yn ymddeol ym mis Mehefin 2024. Cynigir y bydd Stephen Vickers, Prif Weithredwr presennol Torfaen yn camu i rôl Cyd-Brif Weithredwr.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: “Mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn gymdogion, ac mae ein cynghorau a'n cymunedau yn wynebu llawer o heriau tebyg. Mae'r cyhoedd yn gyfarwydd iawn â'r heriau niferus sy'n wynebu'r ddau gyngor, yn cynnwys y pwysau ariannol o tua £70 miliwn ar y cyd a ragwelir yn ystod y pedair blynedd nesaf. Mae ein cynghorau eisiau aros un cam ar y blaen a bod yn rhagweithiol ac yn addasol yn ein strategaethau i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Rydym wedi archwilio ystod eang o gyfleoedd a allai godi wrth weithio’n agosach gyda’n gilydd a chredwn fod gan hyn botensial sylweddol i wella gwytnwch, effeithlonrwydd a chyfle i’r ddau gyngor arloesi.
“Mae'r ddau gyngor am gynnal a gwella gwasanaethau i drigolion, ac maent yn ystyried y byddai un Prif Weithredwr, sy’n cynnig llwybr tuag at rannu sgiliau, adnoddau ac arbenigedd, yn fodd hanfodol o gyflawni hyn. Gallai hyn hefyd helpu i liniaru'r risgiau ariannol a gweithredol go iawn y mae’r ddau gyngor yn eu hwynebu.”
Dywedodd y Cyng. Stephen Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: “Mae hyn yn fater o Brif Weithredwr llawn amser yn gweithio ar draws y ddau gyngor. Nid yw’n gam tuag at benodi Prif Weithredwr rhan amser i’r ddau gyngor nac ychwaith yn gam i uno’r ddau gyngor. Byddai'r ddau gyngor yn cynnal eu pŵer gwleidyddol ac ariannol, y ddau yn cynnal eu blaenoriaethau a’u cynlluniau eu hunain, eu strwythurau rheoli a’u hannibyniaeth wleidyddol. Fodd bynnag, credwn y gall y fath rôl ar y cyd gynnig cyfleoedd go iawn i symud ymlaen yn dilyn y cynnydd y mae’r ddau gyngor wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.”
Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu, bydd angen i'r ddau gyngor gymeradwyo'r cynnig yn ffurfiol yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn yn ystod y misoedd nesaf.