Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Ebrill 2024
Mae poteli plastig, pacedi creision, fêps, E-sgwter sydd wedi torri, a theclyn i orffwys y pen mewn car yn rhai o'r eitemau o sbwriel a godwyd fel rhan o ddigwyddiad Gwanwyn Glân blynyddol Torfaen.
Aeth bron i 100 o wirfoddolwyr i’r afael â 10 o ardaloedd sydd â phroblem sbwriel, a chasglu cyfanswm o 57 o fagiau o sbwriel a 25 o fagiau o eitemau y gellir eu hailgylchu.
Dywedodd Oliver James, Swyddog Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Cyngor Torfaen: “Hon oedd fy ail flwyddyn i drefnu’r digwyddiadau hyn, ac mae dal i fod yn bleser cwrdd â phobl sy'n frwdfrydig dros gadw'r amgylchedd yn lân.
“Hyfryd iawn oedd gweld aelodau o Fforwm Mynediad Torfaen yn bresennol eleni.”
Cynhaliwyd sesiynau casglu sbwriel Gwanwyn Glân Torfaen ym: Mharc Pont-y-pŵl, Llynnoedd y Garn, canol tref Blaenafon, Maes Parcio Neuadd y Mileniwm Garndiffaith, canol tref Pont-y-pŵl, Coedwig Springvale, Northfields, Pyllau Llantarnam, Llyn Cychod Cwmbrân a chaeau Woodland Road.
Dewiswyd pump o'r lleoliadau oherwydd eu bod yn addas i wirfoddolwyr â phroblemau symudedd.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiadau Gwanwyn Glân eleni. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i lendid Torfaen
“Hoffem ddiolch hefyd i unigolion a grwpiau sy'n casglu sbwriel drwy gydol y flwyddyn, rydym wir yn gwerthfawrogi eich holl waith caled.
“Mae sbwriel yn hyll, yn fudr a gall fod yn beryglus i anifeiliaid. Nid oes esgus i daflu sbwriel gan fod gennym dros 700 o finiau sbwriel ar hyd a lled y fwrdeistref.
“Rydym bob amser yn hapus i gefnogi'r cyhoedd a grwpiau gyda chasglu sbwriel gan gynnwys cynnig cyngor a dangos ble i fenthyg offer, felly cysylltwch â ni os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi neu'ch grŵp gymryd rhan ynddo.”
Mae sesiynau Gwanwyn Glân Torfaen yn cael eu cynnal bob blwyddyn ac mae’n gyfle i drigolion, ysgolion, busnesau, ysgolion ac asiantaethau eraill i gasglu sbwriel i helpu i lanhau’r fwrdeistref a chreu mannau di-sbwriel.
I gael gwybod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gyda’r cyngor i helpu’r amgylchedd, cysylltwch ag Oliver.James@torfaen.gov.uk, ymunwch â’n grŵp Facebook pwrpasol, rhowch glic ar Cysylltu Torfaen neu ffonio 01495 762200.
Os hoffech chi gynnal eich sesiwn casglu sbwriel eich hun, gallwch gasglu offer yn rhad ac am ddim o un o'n Hybiau Casglu Sbwriel.
Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at amcanion llesiant y cyngor i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur drwy weithio tuag at gyflawni'r Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon. Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y Cyngor yma.