Masnachwr o Bont-y-pŵl yn euog o werthu sigaréts ffug

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Medi 2023

Mae dyn o Gaerdydd wedi’i gyhuddo o werthu sigaréts a thybaco ffug ym Mhont-y-pŵl.

Mae Ali Abbas Jasim Kurdi o Lys Maelfryn, Malvern Drive, Llanisien, Caerdydd, wedi bod yn gweithio yn “Ponty Shop”, 133 Osborne Road, Pont-y-pŵl, er mis Rhagfyr 2020, ac yna ym mis Mai 2021 daeth yn unig gyfarwyddwr ar gwmni daliannol y siop 'House of Ponty Ltd'.

Derbyniodd swyddogion o Dîm Safonau Masnach y Cyngor gwynion bod y busnes yn gwerthu sigaréts a thybaco ffug,  ac arweiniodd hyn at eu hymchwiliad.

Yn dilyn ymweliadau â'r safle, canfuwyd bod meintiau sylweddol o sigaréts a thybaco anghyfreithlon gwerth dros £9K wedi'u cuddio mewn cerbydau sy'n gysylltiedig â'r busnes. Cafodd y tybaco, y sigaréts a'r ddau gerbyd eu hatafaelu yn dilyn hyn. Byddai’r dreth a’r doll a lwyddodd i’w hosgoi wedi bod dros £5K dan ganllawiau CThEF.

Ymddangosodd Kurdi yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau 28 Medi 2023, ôl pledio'n euog i 10 cyhuddiad blaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys naw o droseddau nod masnach, ac un cyhuddiad o dwyll am feddu ar sigaréts a thybaco ffug, a’u gwerthu.

Gofynnodd y llys am adroddiad prawf cyn dedfrydu Kurdi i orchymyn cymunedol  o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid iddo weithio heb dâl am 120 o oriau yn y gymuned.  Rhaid iddo dalu costau o £989.52 a gordal dioddefwr gwerth £95.  Gorchmynnodd y llys hefyd bod yr holl eitemau a gafodd eu hatafaelu yn cael eu fforffedu a’u dinistrio, yn cynnwys y ddau gerbyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol, yr Amgylchedd: "Mae'r ddedfryd yn arwydd clir o ba mor ddifrifol yw’r fath droseddau yng ngolwg y gyfraith.

“Nid yw gwerthu nwyddau ffug yn drosedd heb ddioddefwyr a bydd manwerthwyr dilys yn Nhorfaen yn parhau i gael eu diogelu rhag y fath gystadlu annheg gan unigolion sy’n ymwneud â’r fath weithgareddau.

“Canfuwyd bod sigaréts a thybaco anghyfreithlon yn cynnwys amrywiaeth o gemegau niweidiol a allai fod yn niweidiol i iechyd unigolyn, sy’n eu gwneud yn nwyddau peryglus iawn. 

“Buaswn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am werthu sigaréts a thybaco anghyfreithlon i gysylltu â thîm Safonau Masnach y Cyngor.” 

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug, gysylltu â’r Tîm Safonau Masnach ar 01633 647623 neu e-bostio trading.standards@torfaen.gov.uk  

Mae rhagor o wybodaeth am safonau masnach ar gael yma

Diwygiwyd Diwethaf: 29/09/2023 Nôl i’r Brig