Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 27 Medi 2023
Mae’n bosibl mai safle hen bwll glo yn Abersychan fydd wythfed Warchodfa Natur Leol Torfaen.
Caeodd Glofa Blaenserchan yn 1985, ac ers hynny mae gweddillion tomenni sborion glo wedi cael eu trawsnewid yn eangderau o laswelltir a rhostiroedd.
Cofnodwyd nifer o rywogaethau nodedig o blanhigion ar y safle, gan gynnwys Tegeirian y Wenynen, Tegeirian Bera, Tegeirian y Waun, Y Corwlyddyn Cnotiog, Y Feillionen Arw, Yr Edafeddog Fach a’r Lloer Redyn.
Nawr, mae yna gynlluniau i’w ddynodi’n Warchodfa Natur Leol, ac fe fydd hynny’n golygu ei fod yn fan gwyrdd gwarchodedig ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer addysg, ymgysylltu â’r gymuned a gwirfoddoli yn lleol.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’n hymrwymiad i roi sylw i’n hargyfwng newid hinsawdd a natur yn cynnwys gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol.
“Mae creu Gwarchodfa Natur Leol yn gymorth i warchod a gwella natur, ac felly rydw i wrth fy modd fod safle segur yn gallu bod o gymaint o fudd i fywyd gwyllt.”
Ar hyn o bryd mae yna saith Gwarchodfa Natur Leol yn Nhorfaen yn Llynnoedd Garn, Coridor Cwmafon (y llwybr beicio sy’n cysylltu Garndiffaith a Blaenafon), Tirpentwys, Chwarel Cwmynyscoi, Pyllau Springvale, Henllys a Llwyncelyn.
Am ragor o wybodaeth am y Warchodfa Natur Leol arfaethedig neu i rannu’ch barn am y cynnig, , anfonwch neges e-bost i veronika.brannovic@torfaen.gov.uk neu steve.williams@torfaen.gov.uk erbyn dydd Mawrth 31 Hydref.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr holl sylwadau’n cael eu coladu a’u cyflwyno i’r Cabinet er mwyn gofyn am gymeradwyaeth i’r dynodiad.
Mae’r bywyd gwyllt a ddarganfuwyd yn Nhorfaen yn ddiweddar yn cynnwys corynod gwenyn – cewch ragor o wybodaeth yma.